Newyddion S4C

Lluniau: Ceudwll yn ymddangos ar stryd ym Merthyr

Ceudwll

Mae tua 30 o gartrefi wedi cael eu gwacáu ar ôl i geudwll mawr agor ar stad o dai ym Merthyr Tudful yn ystod y penwythnos.

Ymddangosodd y twll mawr ar cul-de-sac Nant Morlais fore Sul.

Cafodd Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Chyngor Merthyr Tudful wybod amdano ac mae camau i ddiogleu'r cyhoedd mewn lle.

Y gred yw bod ceuffos wedi chwalu ar ôl glaw trwm wedi Storm Bert.

Dywedodd John Mitchell, sy’n 76 oed, ac yn byw mewn tŷ wrth ymyl y twll fod y sefyllfa’n “frawychus”.

Dywedodd: “Fe ddes i adref a roedd y darn i gyd yno wedi ei rwystro, ac fe aeth y twll yn raddol yn waeth ac yn waeth wrth iddo agor.

“Mae’n frawychus, dydych chi ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd gyda’r dŵr yn mynd oddi tano ac yn golchi popeth i ffwrdd.

Doeddwn i ddim yn gallu gweld i lawr i’r gwaelod, ond roedd yn ddyfnder da, roedd yn eithaf dwfn mewn gwirionedd.”

Mae Mr Mitchell a’i wraig wedi cael eu rhoi i fyny mewn gwesty a dywedodd y byddai’n rhaid iddyn nhw “aros i weld sut mae popeth yn datblygu”, ond ei fod yn gobeithio y byddai ei gartref yn ddiogel.

Dywedodd arweinydd cyngor Merthyr Tudful John Carter ei fod yn gobeithio y byddai ‘r trigolion yn ôl yn eu cartrefi erbyn y Nadolig, ond na allai roi amserlen ar gyfer pa mor hir y byddai'n ei gymryd i waith adfer gael ei gwblhau.

Dywedodd:  “Ddoe, roedden ni’n ceisio cael pobl allan o’u cartrefi ac i lety dros dro – i bacio bag i gyd o fewn 15 munud o rybudd, mae’n drawmatig, mae gen i bob cydymdeimlad â nhw, mae’n amser ofnadwy.

“Mae ein tîm a swyddogion y cyngor, yn ogystal ag asiantaethau allanol, yn symud nef a daear i sicrhau bod popeth yn cael ei roi yn ôl yn ei le cyn gynted â phosib, ond yn amlwg mae diogelwch yn hollbwysig.”

Image
Ceudwll
Image
Eye In The Sky
Image
Eye In The Sky
Image
Eye In The Sky
Image
Eye In The Sky
Image
Ceudwll

 

Lluniau: Eye In The Sky

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.