Pêl-droed: Cymru yn creu hanes wrth ennill lle yn UEFA Euro 2025
Mae Cymru wedi creu hanes wrth ennill eu lle ym Mhencampwriaeth UEFA Euro 2025 ar ôl buddugoliaeth dros Weriniaeth Iwerddon.
Dyma’r tro cyntaf i dîm merched Cymru gyrraedd rowndiau terfynol unrhyw gystadleuaeth ryngwladol.
Inline Tweet: https://twitter.com/S4Cchwaraeon/status/1864047168224387383
Cic o’r smotyn gan Hannah Cain yn gynnar yn yr ail hanner, a ddaeth ar ôl ymyrraeth y VAR, wnaeth rhoi’r Cymry ar eu ffordd yn erbyn y Gwyddelod.
Yna wedi 67 munud, fe wnaeth yr eilydd Carrie Jones lwyddo i ddyblu’r fantais gydag ergyd wych ar ddiwedd gwrthymosodiad chwim.
Fe darodd Iwerddon yn ôl ar ôl 86 munud gyda pheniad gan Anna Patten, i sicrhau diweddglo llawn nerfau i amddiffyn y Cymry a'r cefnogwyr yn Stadiwm Aviva.
Er gwaethaf sawl ymdrech gan y tîm cartref yn ystod wyth munud ychwanegol arteithiol, fe lwyddodd y Dreigiau i ddal eu gafael ar y fantais i sicrhau un o fuddugoliaethau pwysicaf yn hanes y gamp yng Nghymru.
Roedd y fuddugoliaeth 2-1 yn ddigon i selio mantais 3-2 dros ddau gymal yn rownd derfynol y gemau ail gyfle ar gyfer y bencampwriaeth, a fydd yn cael ei chynnal yn y Swistir ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf.
Lluniau: Cymdeithas Bêl-droed Cymru