Newyddion S4C

Gregg Wallace yn wynebu honiadau newydd o gamymddwyn

Gregg Wallace

Mae'r cyflwynydd Gregg Wallace yn wynebu honiadau newydd o gyffwrdd â merched yn amhriodol.

Cyhoeddodd Mr Wallace yr wythnos diwethaf ei fod yn camu yn ôl o gyflwyno rhaglen goginio MasterChef ar y BBC ar ôl cwynion ei fod wedi camymddwyn yn ei waith dros gyfnod o 17 mlynedd.

Mae un ddynes yn honni iddo ei chyffwrdd ar ei phen-ôl ar ôl digwyddiad, gyda dynes arall yn honni iddo bwyso yn ei herbyn yn anaddas tra'n ffilmio ar gyfer sioe wahanol yn ôl BBC News.

Ddydd Mercher dywedodd cyd-gyflwynydd Mr Wallace, y cogydd John Torode, ei fod 'wrth ei fodd' bod yn ran o'r rhaglen, a'i fod yn bwriadu parhau i'w chyflwyno.

Mewn datganiad ar Instagram, dywedodd Mr Torode, sy'n cyflwyno Masterchef ers 2005 gyda Gregg Wallace: "Mae'r syniad bod unrhyw un sydd wedi ymddangos ar ein rhaglen ddim wedi cael profiad gwych yn beth ofnadwy i'w glywed." 

Mae cwmni Banijay UK, sy'n cynhyrchu MasterChef, yn dweud fod Mr Wallace "wedi ymrwymo i gydweithredu yn llawn" gyda'r adolygiad allanol.

Mae ei gyfreithwyr hefyd wedi gwadu ei fod wedi "cymryd rhan mewn ymddygiad o natur aflonyddwch rhywiol."

Ni chafodd rhifyn Nadoligaidd ddwy awr o MasterChef ei darlledu nos Fawrth, ond fe fydd gweddill cyfres MasterChef: The Professionals yn parhau i gael ei darlledu.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Mae'r rhifyn Nadoligaidd yn amlwg yn sioe wahanol ac yn sgil yr amgylchiadau presennol, rydym ni wedi penderfynu peidio ei ddarlledu."

Fe ymddiheurodd Mr Wallace ddydd Llun am honni fod y cwynion am ei ymddygiad wedi dod gan lond llaw o "ferched dosbarth canol o oed penodol".

Mae'r honiadau newydd yn ei erbyn yn dod wedi iddi ddod i'r amlwg fod 13 o bobl wedi cwyno am ei ymddygiad dros gyfnod o 17 mlynedd. 

Yn ogystal â chyfresi MasterChef, mae Mr Wallace wedi ymddangos ar sawl rhaglen ar y BBC dros y blynyddoedd, gan gynnwys Inside the Factory, Eat Well For Less a Supermarket Secrets. Fe wnaeth o hefyd gystadlu yng nghyfres Strictly Come Dancing yn 2014.

Derbyniodd MBE y llynedd am ei wasanaethau i fwyd ac elusennau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.