Prosiect i droi baw gwartheg yn wrtaith dal carbon am y tro cyntaf
Mae prosiect newydd wedi cael ei sefydlu yng Nghymru i droi baw gwartheg yn wrtaith dal carbon am y tro cyntaf.
Mae'r tîm yn datblygu proses i greu sylwedd storio carbon o slyri da byw.
John Owen o gwmni busnes Lafan o Ynys Môn sydd yn arwain y prosiect ac mae arbenigwyr yng Ngholeg Sir Gȃr hefyd yn ymwneud gyda'r gwaith.
Mae'n bosib gwneud Biochar, sy'n ddeunydd siarcol, drwy wresogi unrhyw fiomas heb ocsigen.
Ond mae'r tîm dan arweiniad Mr Owen wedi datblygu proses i'w greu o slyri gwartheg.
Yn ôl Mr Owen, sydd wedi'i leoli ar fferm ger Llandeilo, dyma'r tro cyntaf erioed i Biochar gael ei gynhyrchu o slyri da byw.
"Hyd yma nid yw Biochar erioed wedi cael ei gynhyrchu o slyri da byw, sy'n 95 y cant o ddŵr," meddai.
"Ond mae gwahanu'r solidau a'r prosesau dad-ddyfrio rydym wedi'u datblygu yn Gelli Aur wedi gwneud hynny'n bosibl.
"Gellir cynhesu'r gwaddodion ar dymheredd uchel, dros 400C, i'w droi'n biochar, sef carbon pur y gellir ei storio o dan y ddaear mewn cynllun dal carbon."
Ychwanegodd Mr Owen bod y deunydd yn gallu bod o werth i'r byd amaeth a'r amgylchedd.
"Yn y ffurf hon mae Biochar yn storio carbon am filoedd o flynyddoedd," meddai.
"Ond gall hefyd ddarparu llu o fanteision amaethyddol ac amgylcheddol, fel gwella pridd a chyfrwng tyfu, ychwanegyn at fwyd anifeiliaid neu fel ychwanegyn slyri i leihau allyriadau methan."
Llif incwm newydd i ffermwyr?
Ar hyn o bryd, mae'r tîm yn aros i brofi’r broses y maent wedi datblygu.
Maen nhw'n gobeithio cael defnyddio ffatri brosesu yn Y Trallwng er mwyn creu'r Biochar cyntaf o slyri gwartheg.
Yn ôl Mr Owen, mae gan y deunydd newydd botensial "enfawr" i fod o fudd i’r Gymru wledig.
"Mae slyri yn cael ei storio ar ffermydd i'w defnyddio ar gaeau ond o'r mis hwn mae rheoliadau newydd wedi dod i rym sy'n gwahardd lledaenu slyri yn ystod cyfnod dynodedig ond os yw'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu biochar mae llawer mwy o opsiynau proffidiol," meddai.
"Mae Microsoft a chwmnïau rhyngwladol mawr eraill yn buddsoddi biliynau mewn dal carbon a gallai hyn ddarparu llif incwm newydd i ffermwyr - nid dim ond tanceri fydd yn galw i gasglu llaeth ond hefyd i gymryd slyri o’r fferm i'w brosesu a fydd wedyn yn darparu llif incwm newydd."
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i'r wlad gyrraedd net sero erbyn 2050.
Dywedodd Mr Owen bod busnesau'n gobeithio gwneud hynny drwy gredydau carbon.
"Gallai'r incwm o hynny fod yn enfawr gan ddod â budd i’r gadwyn gyflenwi gyfan," meddai.
"Rydyn ni'n credu y bydd y broses i greu biochar yn gweithio - mae'n rhaid i ni weld sut mae economeg y broses yn datblygu."