MasterChef: Cogydd yn honni i Gregg Wallace ei alw'n derm dilornus am Gymry
Mae cyn-gystadleuwr MasterChef o Gymru wedi dweud iddo “chwerthin” ar ôl sgwrs honedig ble y cafodd ei alw’n “sheep sh*****r” gan y cyflwynydd Gregg Wallace.
Mae Mr Wallace wedi cymryd seibiant o gyflwyno’r gyfres ar ôl i’r BBC dderbyn cwynion ynglŷn ag ymddygiad amhriodol honedig yn ei waith dros gyfnod o 17 mlynedd.
Roedd Chris, o Gwmbrân, yn gogydd ar y gyfres yn 2016 gan lwyddo i orffen yn y 12fed safle.
Wrth drafod y profiad o ymddangos ar y rhaglen, dywedodd Chris iddo sylwi fod Mr Wallace yn gwneud “llawer o jôcs amhriodol”.
Ond roedd hefyd yn grediniol nad oedd Mr Wallace yn ceisio gwneud i bobl “deimlo’n anghyfforddus”.
Wrth siarad ar BBC Radio 5Live, dywedodd Chris: “Cefais i brofiadau gyda Gregg. Yn sicr mae’n gymeriad a hanner, fysech chi’n dweud.
“Mae lot o bobl yn dweud pethau fel, ‘does gen i ddim ffilter’ – mae’n debyg eich bod gennych chi ffilter. Gregg Wallace – dwi wir ddim yn credu bod ganddo ffilter. Ydi o’n dod o le ble mae’n ceisio gwneud i bobl deimlo’n anghyfforddus, bwlio, neu aflonyddu? Yn bersonol, dwi ddim yn meddwl hynny.”
Fe ychwanegodd: “Un tro, roedden nhw’n blasu ein bwyd ac oherwydd y ffordd mae’n cael ei ffilmio, roedden nhw’n sibrwd fel nad oedd y cystadleuwyr yn gallu clywed yr hyn roedden nhw’n dweud.
“Ond mi oeddwn i’n gallu clustfeinio, ac mi oedd John (Torode) a Gregg yn gwneud sylwadau positif iawn, so mi oeddwn i’n hapus iawn ac yn meddwl, ‘dwi wedi neud yn dda, grêt.’
“Unwaith i’r camera dorri, fe gododd ei lais er mwyn i mi glywed a gwneud y jôc, “oh, this sheep s*****r coming down here and cooking me this terrible stuff.” Ac fe wnes i chwerthin, roeddwn i’n meddwl ei fod yn ddoniol.”
Dywedodd nad oedd pawb wedi rhoi’r un ymateb pan oedd Chris wedi ail-adrodd y stori wrth eraill.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1863174143807545400
“Mae pobl yn dweud, “wow, allwn i ddim credu bod e wedi dweud hynny wrthyt ti. Sut oeddet ti’n teimlo?’ O’n i’n meddwl fod o’n ddoniol, nes i chwerthin.
“Wrth siarad hefo Gregg wedyn, a deall y cyd-destun oeddwn i’n iawn efo’r peth. Efallai byddai pobl eraill ddim wedi bod, efallai byddai eraill wedi bod yn anghyfforddus. Ac efallai ei fod yn amhriodol mewn amgylchedd gwaith fel ‘na, ond doeddwn i ddim yn teimlo’n anghyfforddus.
“Allwch chi eu galw nhw’n dad jokes, neu efallai ychydig mwy na hynny. Dyw fy nhad i ddim yn dweud jôcs fel ‘na. Ond mae rhai pobl yn dweud fod y jôcs yn eu gwneud nhw’n teimlo’n fwy cyfforddus, a dwi’n meddwl ei fod yn ceisio bod yn ysgafn iawn yn y ffordd mae’n dweud pethau, yn hytrach na’ch gwneud chi i deimlo’n anghyfforddus.”
Dywedodd Wallace, 60 oed, ei fod wedi “ymrwymo i gydweithredu'n llawn drwy gydol y broses”, wrth i'r cwmni sydd yn cynhyrchu MasterChef, Banijay UK, gyhoeddi eu bod yn cynnal adolygiad i’w ymddygiad.
Roedd y BBC wedi derbyn cwynion gan fwy nag un unigolyn oedd wedi gweithio gyda Mr Wallace ar un o raglenni'r cwmni.
Dywedodd BBC News fod eu darlledwr Kirsty Wark yn honni i Gregg Wallace ddweud jôcs o “natur rywiol” pan oedd hi’n cystadlu ar Celebrity MasterChef yn 2011.
Yn ôl y cyflwynydd, mae'r cyhuddiadau yn ei erbyn am ymddygiad amhriodol honedig o natur rywiol wedi dod gan "fenywod dosbarth canol o oed penodol".
Fe wnaeth Mr Wallace ymddiheuro brynhawn dydd Llun am wneud y sylwadau hynny ac am “unrhyw sarhad wnes i achosi”.
Dywedodd ei fod nawr yn bwriadu “cymryd ychydig o amser i ffwrdd”.
Dywedodd: “Rwyf am ymddiheuro am unrhyw sarhad a achosais gyda fy neges ddoe [dydd Sul] ac unrhyw ofid y gallaf fod wedi ei achosi i lawer o bobl.
“Doeddwn i ddim mewn gofod pen da pan wnes i ei bostio, rydw i wedi bod dan lawer iawn o straen, llawer o emosiwn, roeddwn i'n teimlo'n unig iawn, dan warchae ddoe pan bostiais i.
“Mae’n amlwg i mi fod angen i mi gymryd ychydig o amser i ffwrdd, nawr tra bod yr ymchwiliad hwn ar y gweill. Gobeithio eich bod chi'n deall ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n derbyn yr ymddiheuriad hwn."
Roedd Downing Street wedi dweud bod ei ymateb i’r cyhuddiadau yn “amhriodol a misogynistaidd”.
Dywed cyfreithwyr Wallace: “Mae’n gwbl anwir ei fod yn ymddwyn mewn ffordd sy’n aflonyddu’n rhywiol”.
Llun: Gregg Wallace (Getty/Wochit)