Gregg Wallace ddim i gyflwyno MasterChef am y tro ar ôl cwynion am ei ymddygiad
Ni fydd Gregg Wallace yn cyflwyno'r gyfres goginio MasterChef am y tro ar ôl cwynion ei fod wedi camymddwyn yn ei waith dros gyfnod o 17 mlynedd.
Daw un o'r cwynion gan gyn-gyflwynydd Newsnight, Kirsty Wark, meddai BBC News.
Dywedodd Wallace, 60 oed, ei fod wedi “ymrwymo i gydweithredu'n llawn drwy gydol y broses”, wrth i'r cwmni sydd yn cynhyrchu MasterChef, Banijay UK, gyhoeddi eu bod yn cynnal adolygiad.
Roedd y BBC wedi derbyn cwynion gan fwy nag un unigolyn oedd wedi gweithio gyda Mr Wallace ar un o raglenni'r cwmni.
Dywedodd BBC News fod eu darlledwr Kirsty Wark yn honni i Gregg Wallace ddweud jôcs o “natur rywiol” pan oedd hi’n cystadlu ar Celebrity MasterChef yn 2011.
Mae hi’n un o 13 o bobl sydd wedi dweud wrth y BBC am sylwadau rhywiol amhriodol gan Gregg Wallace yn ystod y cyfnod o 17 mlynedd.
Dywedodd BBC News eu bod wedi cael gwybod am natur rhai o’r honiadau eraill, gan gynnwys bod y cyflwynydd wedi “siarad yn agored am ei fywyd rhywiol”.
'Hanesyddol'
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran cynhyrchwyr rhaglen MasterChef, Banijay UK: “Er nad yw’r achwynwyr hyn wedi codi’r honiadau’n uniongyrchol gyda’n cynhyrchwyr sioe neu riant-gwmni Banijay UK, rydym yn teimlo ei fod yn briodol cynnal adolygiad allanol ar unwaith i ymchwilio’n llawn ac yn ddiduedd.
“Tra bod yr adolygiad hwn ar y gweill, bydd Gregg Wallace yn camu i ffwrdd o’i rôl ar MasterChef ac mae wedi ymrwymo i gydweithredu’n llawn drwy gydol y broses.
“Mae dyletswydd gofal Banijay UK i staff bob amser yn flaenoriaeth ac mae ein disgwyliadau o ran ymddygiad yn cael eu gwneud yn glir i’r cast a’r criw ar bob cynhyrchiad, gyda sawl ffordd o godi pryderon, gan gynnwys yn ddienw, yn cael eu hyrwyddo’n glir ar y set.
“Er bod y rhain yn honiadau hanesyddol, mae digwyddiadau sy’n cael eu dwyn i’n sylw lle nad yw’r disgwyliadau hyn yn cael eu bodloni, yn cael eu hymchwilio’n drylwyr ac yn cael sylw priodol.”
'Safonau'
Yn ogystal â chyfresi MasterChef, mae Mr Wallace wedi ymddangos ar sawl rhaglen ar y BBC dros y blynyddoedd, gan gynnwys Inside the Factory, Eat Well For Less a Supermarket Secrets. Bu hefyd yn cystadlu yng nghyfres Strictly Come Dancing yn 2014.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Rydym yn cymryd unrhyw faterion sy’n cael eu codi gyda ni o ddifrif ac mae gennym ni brosesau cadarn yn eu lle i ddelio â nhw.
“Rydym bob amser yn glir na fydd unrhyw ymddygiad sy’n disgyn islaw’r safonau a ddisgwylir gan y BBC yn cael ei oddef.
“Pan fydd unigolyn yn cael ei gontractio’n uniongyrchol gan gwmni cynhyrchu allanol rydym yn rhannu unrhyw gwynion neu bryderon gyda’r cwmni hwnnw a byddwn bob amser yn eu cefnogi wrth fynd i’r afael â nhw.”
Derbyniodd MBE y llynedd am ei wasanaethau i fwyd ac elusennau.
Llun: Wochit