Newyddion S4C

Ffyrdd ar gau, llifogydd, a rhybuddion tywydd Storm Bert yn parhau

gwynt

Mae Cymru’n dal i deimlo effaith Storm Bert gyda rhybuddion am law a llifogydd ar draws y wlad.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 49 o rybuddion coch – angen gweithredu ar frys – a 60 o rybuddion melyn – byddwch yn barod.

Daw hyn yn sgil glaw trwm a gwyntoedd cryfion dros y diwrnodau diwethaf ac eira’n toddi.

Mae ffyrdd dan lifogydd ym Mhontypridd fore dydd Sul. 

Mae'r ffyrdd canlynol ar gau medd Traffig Cymru:

A5 Ogwen - Capel Curig
 
A494 Llanuwchllyn
 
A470 Ffordd Osgoi Dolgellau
 
A458 Cyfronydd
 
A40 Aberhonddu - Llanspyddid
 
Mae llifogydd hefyd yn effeithio ar y ffyrdd canlynol:
 
A5 Corwen
 
A5 Cerrigydrudion 
 
A40 Bwlch - Crughywel
 
A44 Crossgates
 

Fe wnaeth y Swyddfa Dywydd ymestyn y rhybudd melyn am law fore dydd Sul o 06:00 tan 13:00.

Mae’r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

Blaenau Gwent

Pen-y-bont ar Ogwr

Caerffili

Caerdydd

Merthyr Tudful

Sir Fynwy

Castell-nedd Port Talbot

Casnewydd

Powys

Rhondda Cynon Taf

Abertawe

Torfaen

Bro Morgannwg

Llun: Darren Tennant

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.