Caernarfon yn arwyddo'r ymosodwr Brad Young
Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon wedi cyhoeddi bod yr ymosodwr Brad Young wedi ymuno â’r clwb.
Roedd Young yn brif sgoriwr yn y Cymru Premier dros Y Seintiau Newydd yn 2024, cyn iddo arwyddo i dîm Al Orobah yn Uwch Gynghrair Saudi Arabia fis Medi 2024.
Roedd y clwb wedi cytuno ffi drosglwyddo o £190,000 am y cyn chwaraewr Aston Villa, ond fis Mawrth y llynedd fe ddywedodd y Seintiau nad oedden nhw wedi derbyn taliad amdano.
O ganlyniad, fe wnaeth corff llywodraethau FIFA wahardd Al Orobah rhag gwneud unrhyw drosglwyddiadau pellach.
Fe sgoriodd Young ddwy gôl mewn 17 gêm i’r tîm, cyn gadael fis Gorffennaf i ymuno â thîm Baniyas, yn Abu Dhabi, sydd yn cystadlu yn yr UAE Pro League yn yr Emiradau Arabaidd Unedig. Fe wnaeth chwe ymddangosiad dros y tîm eleni heb ganfod y rhwyd.
Mewn cyhoeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol ar Nos Galan, daeth cadarnhad gan Gaernarfon eu bod wedi arwyddo’r ymosodwr 23 oed.
Mae’r Cofis wedi sicrhau eu lle yn chwech uchaf y Cymru Premier ar ôl buddugoliaeth 0-1 oddi cartref yn erbyn y Bala ddydd Mercher.
Llun: Brad Young yn dathlu sgorio dros y Seintiau Newydd yn y tymor 2023/24 (Cymdeithas Bêl-droed Cymru)