Pwy yw'r Cymry sydd yn rhan o gyfres newydd The Traitors?

Lluniau: BBC
traitors cymraeg

Mae menyw o Abertawe a dyn o Gaerdydd yn rhan o gyfres newydd The Traitors a fydd yn dechrau ar Ddydd Calan. 

Mae'r gyfres yn dilyn 22 o bobl ar draws y DU sydd yn cystadlu mewn castell yn yr Alban i geisio ennill hyd at £120,000.

Mae Fiona yn 62 oed ac yn gweithio fel Swyddog Llywodraeth Leol. 

Wrth gael ei holi am y rhesymau dros ymgeisio ar y gyfres, fe ddywedodd Fiona: "Dwi erioed wedi ymgeisio ar gyfer unrhyw beth fel hyn o'r blaen, ond dwi wir yn mwynhau'r sioe. 

"Dwi'n berson eithaf siaradus yn naturiol. Mae fy swydd i'n gofyn am sicrhau fod pobl yn ymddiried ynof i fel eu bod nhw'n gallu symud ymlaen gyda'u bywydau. Dwi'n berson dibynadwy, ac mae pobl yn hoffi hynny yn naturiol."

Fe ychwanegodd Fiona y byddai hi "wrth ei bodd" i fod yn fradwr.

"Mae'r rheswm am hynny yn eithaf clir. Dwi bob amser wedi cymryd rheolaeth o fy nhynged fy hun, fy mhenderfyniadau fy hun, boed hynny wrth newid swyddi, cartrefi, ceir."

Yn 51 oed, mae Hugo yn fargyfreithiwr sydd yn byw yn Llundain ond a gafodd ei eni yng Nghaerdydd. 

"Dwi wrth fy modd gyda'r sioe... dwi'n meddwl fy mod i wedi gweld pob pennod yn yr iaith Saesneg, y fersiwn yn y DU, UDA, Awstralia a Seland Newydd," meddai. 

"Dwi'n gobeithio bod yn Fradwr ar ryw adeg yn y gêm. Dwi jyst yn meddwl fod ganddyn nhw'r holl wybodaeth, y pŵer i gyd, ac mae'n ymddangos yn gymaint o hwyl i weld popeth, tra bod y rhai sy'n ffyddlon yn disgwyl i gael eu llofruddio mewn ffordd."

'Rhywbeth newydd'

Mae cyflwynydd y gyfres Claudia Winkleman wedi awgrymu ambell i newid "gwirioneddol ryfeddol" yn y gyfres ddiweddaraf o The Traitors a fydd yn dechrau ar Ddydd Calan. 

Mae'r gyfres yn dilyn 22 o bobl ar draws y DU sydd yn cystadlu mewn castell yn yr Alban i geisio ennill hyd at £120,000.

Fe wnaeth fideo ar y cyfryngau cymdeithasol a gafodd ei gyhoeddi Ddydd Nadolig ddangos ffigwr yn gwisgo clogyn coch, a oedd yn wahanol i'r clogyn gwyrdd sy'n cael ei wisgo gan y 'bradwyr' fel arfer. 

"Y cwbl dwi'n ddweud ydi fod yna rhywbeth newydd, ac mae beth sy'n digwydd yn y gyfres yma yn wirioneddol ryfeddol," meddai Claudia Winkleman ar drothwy'r gyfres newydd.

"Alla i ddim aros i bobl ei gweld... mae gan y cynhyrchwyr y meddyliau gorau ar y blaned."

Nid yw'r clogyn coch wedi'i weld mewn cyfresi yn y gorffennol, ac mae dyfalu y gallai rôl newydd fod wedi'i chreu i'r cystadleuwyr eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.