Newyddion S4C

Rhondda Cynon Taf: Cyhoeddi digwyddiad o bwys o achos llifogydd

24/11/2024

Rhondda Cynon Taf: Cyhoeddi digwyddiad o bwys o achos llifogydd

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi digwyddiad o bwys ('major incident') o achos llifogydd yn yr ardal fore dydd Sul.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, bod y penderfyniad wedi ei wneud o achos "llifogydd sylweddol gan gynnwys llifogydd afon mewn sawl lleoliad yn y sir."

Mae'r aelod seneddol Llafur lleol, Alex Davies-Jones wedi disgrifio'r sefyllfa fel un aruthrol o drist, gan ychwanegu bod ei thîm yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynorthwyo.

Dywedodd Heledd Fychan AS, o Blaid Cymru: "Meddwl am bawb sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd, ac yn fwy na dim, rwy'n gobeithio bod pawb yn ddiogel.

"Gyda llifogydd yn dod yn fwy eithafol ac yn amlach, rhaid inni wneud yn siŵr y tro hwn bod gwersi’n cael eu dysgu a mwy o gefnogaeth yn cael ei ddarparu i gymunedau.
 
"Bydd fy nhîm a minnau’n canolbwyntio heddiw ac yn y dyddiau nesaf ar ddarparu cymorth ymarferol i’r rhai sydd wedi eu heffeithio..."
 
Image
llif
Llun: EmmaWales123
 
Dywedodd Syr Chris Bryant, AS Rhondda ac Ogwr, fod tua 10 ardal wahanol yn ei etholaeth wedi eu heffeithio gan lifogydd ac mae tudalen codi arian wedi ei sefydlu i helpu'r rhai sydd mewn angen.
 
Dywedodd yr AS fod yr afon 53cm yn uwch yn y Rhondda nag oedd yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020.
 
“Mae tua 10 ardal wahanol yn yr etholaeth lle mae llifogydd wedi bod, rhai wedi gorlifo o’r blaen ac eraill yn hollol newydd.”
 
Ychwanegodd bod tafarn y Rheola wedi bod dan ddŵr am tua’r trydydd tro mewn pum mlynedd a’r tro hwn roedd  “fel afon yn rhedeg drwy ei chanol.
 
“Mae cryn dipyn o’r bobl leol rydw i wedi siarad â nhw heddiw heb unrhyw yswiriant oherwydd os ydych chi’n ddifreintiedig dyma’r bil olaf rydych chi’n ei dalu.”
 
Image
llif
Canol Pontypridd. Llun: EmmaWales123
 
Mae dwy ganolfan gymorth wedi eu hagor yn y sir i gynnig cymorth i bobl sydd wedi cael eu heffeithio - un yng Nghanolfan Chwaraeon Ystrad, a'r llall yn Llys Cadwyn yn Llyfrgell Pontypridd.

Unwaith eto mae Pontypridd wedi dioddef effaith llifogydd difrfol yn dilyn glaw trwm, a hynny o ganlyniad i Storm Bert.

Ardal Cwr Stryd y Felin sydd wedi ei heffeithio fwyaf yn y dref, gyda nifer o fusnesau yno wedi dioddef.

Mae Clwb y Bont dan ddŵr ac fe gafodd trigolion Stryd Sion yn y dref eu heffeithio gan y llifogydd diweddaraf yno hefyd.

Dywedodd un o bwyllgor Clwb y Bont, Geraint Day, wrth Newyddion S4C eu bod nhw wedi gosod mesurau mewn lle. 

Dywedodd: “Dwi ddim yn credu bod pethau cynddrwg ag oedden nhw gyda Storm Dennis ond mae nifer o fusnesau yn y dref wedi ei chael hi'n wael. 

"Ry’ ni wedi gosod drysau newydd sy’n gwrthsefyll dŵr yn well a llifddorau dur ac wedi eu gosod neithiwr ar ôl cael rhybudd gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

"Mae’n edrych bod y drysau wedi gwneud eu gwaith gyda thua modfedd o ddŵr tu fewn a dwy droedfedd tu fas. Byddwn ni’n gwybod mwy ddydd Llun – ‘da ni ddim yn mynd i’w hagor nhw heddi. 

"Ond ‘da ni hefyd yn poeni am y dŵr sydd wedi bod yn disgyn ar y Bannau sy’n cymryd tua 12-18 awr i’n cyrraedd ni."

Image
clwb y bont
Clwb y Bont, Pontypridd fore dydd Sul (Llun: GTFM)

Mae bwyty Zucco yn y dref wedi apelio am fagiau tywod ar y cyfryngau cymdeithasol gan fod y busnes dan ddŵr.

Mae safle'r Eisteddfod Genedlaethol eleni, Parc Ynysangharad a'r Lido, hefyd dan ddŵr fore dydd Sul.

Fe ddioddefodd y dref lifogydd difrifol yn 2020.

Yn Aberpennar mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cynghori pobl i symud eu cerbydau o faes parcio yn y dref gan fod llifogydd yn gorlifo iddo o afon gyfagos.

Yn Aberdâr mae cledrau dan ddŵr a gwasanaethau trenau wedi eu gohirio.

Image
Taf
Afon Taf ym Mhontypridd fore dydd Sul (Llun: GTFM)
Image
bwlch
Tirlithriad yn cau'r ffordd rhwng Nantymoel a Bwlch (Llun: GTFM)
Image
pONTY
Parc Ynysangharad, Pontypridd (Llun: Sharon Nicholls/GTFM)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.