‘Braint fawr’: Cyfansoddwr o Gaerdydd yn rhan o wŷl gelfyddydol yn Oman
Bydd yr iaith Gymraeg yn rhan o arddangosfa yn y Dwyrain Canol wrth i waith cyfansoddwr o Gymru gael ei arddangos mewn gwŷl gelfyddydol yn Oman.
Yn gynharach eleni, cafodd y cerddor a chyfansoddwr John Meirion Rea wahoddiad gan Weinidogaeth Diwylliant Oman i fod yn rhan o ŵyl newydd o’r enw Raneen.
Roedd Mr Rea, o Gaerdydd, yn un o saith artist rhyngwladol i dderbyn gwahoddiad, ac fe fydd yn creu darn o gerddoriaeth arbennig i gyd-fynd â gwaith 'Amgueddfa'r Lleuad', gan yr artist byd enwog Luke Jerram.
“Mae ‘na 13 artist o Oman, ac mae 'na saith artist rhyngwladol a fi yw’r unig Gymro yn y garfan yna, sy’n fraint fawr,” meddai Mr Rea.
Bydd gosodwaith Mr Rea yn cynnwys seiniau o gerddoriaeth traddodiadol o Oman yn ogystal â seiniau cyfoes y mae eisoes wedi recordio ar ôl teithio i’r wlad ddwywaith.
Bydd hefyd yn ceisio plethu’r Gymraeg i mewn i’r darn, fydd yn cael ei arddangos yn yr adeilad Bait Al Khonji yn Muttrah, porthladd hynafol ger y brifddinas Muscat, tan 30 Tachwedd.
“Oman yw’r wlad hynaf yn y rhan yna o’r byd, felly mae yna ddiwylliant a thraddodiadau cyfoethog iawn a dyna mae’r ŵyl yn trio dathlu," meddai John.
“Dyma’r tro cyntaf i Oman gwneud unrhyw beth fel hyn ac mae hynny’n bwysig, bod yna agoriad drws yn y meddylfryd i ariannu prosiect rhyngwladol fel hyn a bod yna ddeialog efo artistiaid eraill, o Awstria, y Ffindir, Yr Almaen, ac wrth gwrs o Gymru.
"Un o’r pethau sy’n asgwrn cefn i fy ngwaith ydi fy mod wedi gweithio efo merch o'r enw Amal Waqar sydd, sydd yn chwarae'r Oud, sef offeryn llinynnol traddodiadol, ac fe wnaeth hi ddysgu lot i fi am gerddoriaeth Arabaidd.
“Mae’n bwysig i fod yn rhan o garfan o artistiaid rhyngwladol, ond mae’r ffaith bod gan Gymru llais yno yn bwysig i fi a dwi'n awyddus fy mod i’n cyflwyno Cymreictod iddyn nhw fel oedden nhw wedi cyflwyno eu diwylliant nhw i fi.”
Dilyn olion troed Cymraes arloesol
Wrth grwydro’r wlad i ddal synau ar gyfer y cyfansoddiad, fe deithiodd o’r mynyddoedd Jabalak i'r anialwch diffaith anferthol, gan recordio'r sain o grochenwyr ac adeiladwyr cychod traddodiadol wrth eu gwaith.
Bu hefyd iddo ddefnyddio meicroffonau tanfor i recordio'r sain o dan wyneb y môr.
Yn ysbrydoliaeth iddo ar ei daith drwy'r wlad oedd darn o lenyddiaeth gan yr awdur Jan Morris, oedd wedi treulio cyfnod sylweddol yn y wlad ddegawdau ynghynt.
"Yn ôl yr hen cliche, yr addysg gorau yw trafeilio. Mae rhywun yn gweld pa mor brydferth yw Oman fel gwlad ac mae’n agoriad llygad.
"Mae’n lle eithafol o ran y mynyddoedd, sydd yn debyg i Gymru yn hynny o beth. Does dim anialwch yng Nghymru wrth gwrs, ond mae ganddo ni’r Gwŷr! Mae’n anhygoel o le.
“Roedd Jan Morris wedi treulio amser yma pan oedd hi’n ohebydd dwyrain canol i’r Times dwi’n meddwl, ac fe wnaeth hi sgwennu llyfr o’r enw Sultan in Oman.
"Er gaeth e’i sgwennu blynyddoedd yn ôl a dyw e ddim yn gyfoes erbyn hyn, oedd e’n rhoi rhyw fath o ffordd i mewn i mi."
'Poeni am y dyfodol'
Roedd cefnogaeth y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi bod yn allweddol wrth alluogi iddo gymryd rhan yn yr ŵyl.
Ond gyda phryderon dros ddyfodol y sector gelfyddydol yng Nghymru, mae'n amau y byddai cyfleoedd fel rhain yn fwy prin iddo a'i gyfoedion yn y dyfodol.
"Dwi’n meddwl bod e’n anochel bod popeth yn mynd i gael ei effeithio.
"Dwi wedi bod yn lwcus iawn achos bod y prosiect hwn di bod yn unigryw, mae’r gefnogaeth wedi bod yna. Ond dwi yn poeni am y dyfodol.
"Fel artist freelance, cerddor a chyfansoddwr, wrth gwrs mae rhywun yn poeni, bod y cyfleoedd yn llai a bod 'na lai o artistiaid yn cael y siawns a bod diwylliant yn gyffredinol yn lot yn dlotach."