Rhybudd na fydd sector gelfyddydol ymhen 10 mlynedd os bydd mwy o doriadau
Rhybudd na fydd sector gelfyddydol ymhen 10 mlynedd os bydd mwy o doriadau
Ni fydd yna sector gelfyddydol broffesiynol ymhen 10 mlynedd os fydd yna ragor o dorri cyllidebau, meddai Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru.
Yn ôl Dafydd Rhys, all y sector “ddim ymdopi” gyda rhagor o doriadau.
Eleni, mae’r celfyddydau wedi wynebu toriad o 10.5% yn eu cyllideb.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi gorfod canolbwyntio cyllid ar wasanaethau craidd, fel y Gwasanaeth Iechyd.
Mae yna swyddi yn cael eu colli o fewn Amgueddfa Cymru a phryderon hefyd am ddyfodol y Llyfrgell Genedlaethol.
Dywedodd Dafydd Rhys: “Sgil effaith [llai o arian] fydd llai o weithgaredd mewn cymunedau oherwydd fydd cwmnïau a chanolfannau methu fforddio i gynnal y gweithgareddau fel nhw wedi bod.”
Ychwanegodd bod posibilrwydd y bydd llai o gyfleoedd swyddi i bobl yn y dyfodol.
“Gallwn ni ddim ymdopi gyda mwy o doriadau neu fydd na ddim sector proffesiynol yng Nghymru mewn 10 mlynedd os ydi’r patrwm yma o gyllid yn cael ei dorri yn parhau,” meddai.
'Sefyllfa heriol'
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn dweud bod eu cyllideb wedi aros yr un fath ers 2009 ac felly bod hynny’n doriad mewn termau real.
“Mae’n creu sefyllfa heriol iawn o fewn y sector gelfyddydol lle y bydd pobl yn dechrau poeni am brinder gwaith, yn enwedig llawryddion,” meddai Steffan Donnelly, eu cyfarwyddwr artistig.
“Dw i'n meddwl ein bod ar ryw fath o groesffordd yn fan 'ma gan Lywodraeth Cymru o ran be ydi blaenoriaethu ariannu’r celfyddydau.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn rhan annatod o'n cymdeithas a'n lles, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
“Rydym wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb ar y sectorau hyn, fodd bynnag, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd.
"Rydym yn benderfynol na ddylai'r heriau ariannol sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd gyfyngu ar ein huchelgeisiau hirdymor ar gyfer y sector.”