Cyfrifiad 2031: Galw am gynnwys cwestiwn am allu pobl yn Lloegr i siarad Cymraeg
Mae mudiad iaith wedi galw am gynnwys cwestiwn yn y cyfrifiad nesaf am allu pobl i siarad Cymraeg yn Lloegr yn ogystal â Chymru.
Roedd Dyfodol i’r Iaith yn ymateb i ymgynghoriad gan Gomisiwn y Cyfrifiad i’r arolwg ar draws y DU a fydd yn cael ei chynnal yn 2031.
Ar hyn o bryd mae cwestiwn am allu pobl i siarad Cymraeg yn cael ei ofyn yng Nghymru yn unig.
Dywedodd Dylan Bryn Roberts, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith, bod angen cymryd y cam er mwyn “cael darlun llawn o hyfywedd yr iaith”.
“Gan fod llawer o siaradwyr Cymraeg yn byw ac yn gweithio yn Lloegr, a rhai mewn rhannau eraill o'r D.U., byddai'r wybodaeth hon yn gymorth wrth lunio polisïau ar gyfer addysg a darlledu Cymraeg yn y gwledydd hynny, a hefyd yn gymorth i raglenni sy'n ceisio denu siaradwyr Cymraeg i swyddi yng Nghymru,” meddai.
Mae 40% o fyfyrwyr israddedig o Gymru sy’n mynd i brifysgol yn dewis mynd dros Glawdd Offa, yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru.
Byddai’r wybodaeth yma felly yn rhoi darlun manwl a chywir o faint o siaradwyr Cymraeg sy’n gadael Cymru a faint sy’n cael eu denu yn ôl, meddai Dylan Brys Roberts.
Mae'r ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2031, a lansiwyd ar 28 Hydref 2025 yn rhedeg hyd at 4 Chwefror 2026.
Dywedodd y comisiwn bod modd i unrhyw sefydliad neu unigolyn a hoffai wneud cais i opsiynau ymateb newydd gael eu hychwanegu gysylltu â nhw fel rhan o’r ymgynghoriad.
Dywedodd Awdurdod Ystadegau'r DU adeg comisiynu'r sensws ym mis Gorffennaf ei fod yn “amlwg yn parhau yn hynod o werthfawr wrth wneud y penderfyniadau mawr sy’n wynebu ein gwlad”.
“Byddwn yn cydweithio’n agos â’r llywodraethau datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod ystadegau poblogaeth yn cael eu cydlynu ledled y DU,” meddai.