'Dwi'n difaru dim,' meddai'r ffermwr o Gymru a daflodd wy at John Prescott
'Dwi'n difaru dim,' meddai'r ffermwr o Gymru a daflodd wy at John Prescott
Mae ffermwr o Sir Ddinbych a daflodd wy at John Prescott cyn derbyn dwrn gan y cyn ddirprwy brif weinidog wedi dweud ei fod yn “difaru dim”.
Fe daflodd Craig Evans wy ar y diweddar Arglwydd Prescott fel rhan o brotest, wrth i’r gwleidydd o'r blaid Lafur ymweld â’r Rhyl yn ystod yr ymgyrch Etholiad Cyffredinol, ym mis Mai 2001.
Fe wnaeth Mr Prescott gamu oddi ar fws ymgyrch y blaid er mwyn annerch rali yn y dref, pan gafodd ei daro gan yr wy.
Roedd y cyn focsiwr wedi ymateb drwy daflu dwrn tuag at Mr Evans, o Ddinbych, oedd yn 29 oed ar y pryd, a hynny o flaen y camerâu teledu.
Yn dilyn y newyddion am farwolaeth Mr Prescott ddydd Iau, dywedodd Mr Evans ei bod yn meddwl am deulu a ffrindiau y chyn wleidydd.
Ond fe wnaeth Mr Evans, sydd bellach yn byw ar fferm ar fryniau Clwyd y tu allan i Ddinbych, ysgwyd ei ben pan gafodd ei holi os oedd yn difaru’r hyn a wnaeth 23 mlynedd yn ôl.
“Dwi'n difaru dim,” meddai Mr Evans, sydd bellach yn 53 oed.
Dywedodd wrth asiantaeth newyddion PA ei fod wedi derbyn sawl gwahoddiad i drafod y digwyddiad ar raglenni teledu, ond ei fod wedi eu gwrthod gan geisio “osgoi’r pwnc”.
“Roedd yn amser maith yn ôl," meddai. "It is what it is. Dyna mae pobl yn fy adnabod i amdano’n lleol.
"Does gen i ddim byd arall i ddweud yn y bôn, dwi’n ceisio osgoi’r peth drwy’r amser. Dwi wedi bod yn ei osgoi ers blynyddoedd.
“Mae un o fy ffrindiau newydd ffonio fi i ddweud ei fod wedi marw. Roedd ganddo fo Alzheimer’s, dwi’n credu. Fyswn i ddim yn dymuno hynny ar neb.
“Does gen i ddim byd i ddweud, oni bai am ddweud bod fy meddyliau gyda’i deulu.
“Roedd gan fy nhaid Alzheimer’s. Mae’n beth erchyll, mae’n dwyn y person o’u hunain.
“Mae’n ddiwrnod trist i’w deulu a phawb oedd o’i gwmpas.”
'Two jabs'
Cafodd Mr Evans, oedd yn weithiwr fferm ar y pryd, ei dywys o’r lleoliad mewn cyffion gan yr heddlu yn dilyn y digwyddiad, ond nid oedd unrhyw gyhuddiadau yn erbyn naill ddyn.
Fe wnaeth sawl arolwg papur newydd yn dilyn y digwyddiad awgrymu fod y cyhoedd yn gefnogol o ymateb Mr Prescott, a wnaeth arwain iddo gael y llysenw ‘Two Jabs’, cyn i Lafur fynd ymlaen i ennill yr etholiad y mis canlynol.
Lluniau: PA