Y cyn-ddirprwy Brif Weinidog John Prescott wedi marw yn 86 oed
Mae’r cyn-ddirprwy Brif Weinidog John Prescott wedi marw yn 86 oed yn dilyn brwydr yn erbyn Alzheimer’s, meddai ei deulu.
Bu farw’r cyn-ymgyrchydd undeb Llafur, oedd o Brestatyn yn Sir Ddinbych yn wreiddiol, yn “heddychlon” wedi'i amgylchynu gan ei deulu yn ei gartref gofal.
Dywedodd ei deulu ei fod wedi "treulio ei fywyd yn ceisio gwella bywydau eraill, yn ymladd dros gyfiawnder cymdeithasol ac yn gwarchod yr amgylchedd".
Roedd yr Arglwydd Prescott yn ffigwr allweddol ym mhrosiect Llafur Newydd Syr Tony Blair.
Cafodd ei urddo yn 2010 a’i gyflwyno i’r siambr uchaf fel y Barwn Prescott o Kingston upon Hull ar ôl gwasanaethu am bedwar degawd fel AS dros y ddinas.
'Ceisio gwella bywydau'
Mewn datganiad, dywedodd ei wraig Pauline a’i feibion Johnathan a David mai cynrychioli pobol Hull oedd “ei anrhydedd pennaf”.
“Mae’n dristwch mawr i ni gyhoeddi bod ein gŵr, tad a thaid annwyl, John Prescott, wedi marw’n dawel ddoe yn 86 oed,
“Fe wnaeth hynny wedi’i amgylchynu gan gariad ei deulu a cherddoriaeth jazz Marian Montgomery.
“Treuliodd John ei fywyd yn ceisio gwella bywydau pobl eraill, yn ymladd dros gyfiawnder cymdeithasol ac yn amddiffyn yr amgylchedd, gan wneud hynny o’i amser fel gweinydd ar longau mordaith i ddod yn ddirprwy Brif Weinidog hiraf Prydain.
“Roedd John yn caru ei gartref yn Hull yn fawr a chynrychioli ei phobl yn y Senedd am 40 mlynedd oedd ei anrhydedd pennaf. Hoffem ddiolch i feddygon a nyrsys anhygoel y GIG a fu’n gofalu amdano ar ôl ei strôc yn 2019 a’r staff ymroddedig yn y cartref gofal lle bu farw ar ôl byw gydag Alzheimer's yn ddiweddar.”
Ychwanegodd y teulu: “Yn lle blodau ac os dymunwch wneud hynny, gallwch gyfrannu at Alzheimer’s Research UK.
“Fel y gallwch chi ddychmygu, mae angen i'n teulu brosesu ein galar fel ein bod yn gofyn yn barchus am amser a lle i alaru yn breifat. Diolch.”
Fe roddodd yr Arglwydd Prescott y gorau i fod yn aelod o’r siambr uchaf ym mis Gorffennaf eleni ar ôl wynebu trafferthion iechyd.
Dim ond unwaith yr oedd wedi siarad yn y siambr ers iddo gael strôc yn 2019, yn ôl cofnodion swyddogol, ac nid oedd wedi pleidleisio ers mis Chwefror 2023.
Dros yrfa seneddol yn ymestyn dros fwy na hanner canrif, gwasanaethodd yr Arglwydd Prescott am 10 mlynedd fel dirprwy Brif Weinidog ar ôl tirlithriad Etholiad Cyffredinol Llafur yn 1997.
Ar adegau yn fyr ei dymer, fe wnaeth unwaith ddyrnu protestiwr a daflodd wy ato yn ystod ymgyrch etholiadol yng ngogledd Cymru yn 2001.
Ond yn ystod llawer o'i amser yn y swydd, bu'n gweithredu fel cyfryngwr yn y berthynas gythryblus rhwng Syr Tony a'r canghellor Gordon Brown.