Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif benawdau ar fore dydd Sul, 18 Gorffennaf.
Prif Weinidog a'r Canghellor ddim i hunan-ynysu wedi prawf positif Sajid Javid
Ni fydd Boris Johnson a Rishi Sunak yn hunan-ynysu er iddyn nhw fod mewn cysylltiad gyda'r Gweinidog Iechyd, Sajid Javid. Dywed Sky News fod y Prif Weinidog a'r Canghellor wedi derbyn neges gan ap Profi ac Olrhain y GIG, ond y bydd y ddau yn cael eu profi yn ddyddiol yn hytrach na hunan-ynysu.
Llifogydd yr Almaen: Nifer y meirw yn parhau i gynyddu
Mae dros 170 o bobl wedi marw a channoedd o bobl ar goll ar ôl i law trwm achosi llifogydd difrifol yn Yr Almaen a Gwlad Belg. Dywedodd arlywydd yr Almaen, Frank-Walter Steinmeier, iddo gael ei “syfrdanu” gan y dinistr a achoswyd gan y llifogydd.
Newid Hinsawdd: ‘Ein penderfyniadau yng Nghymru yn effeithio’r byd’
Mae ymchwilydd blaenllaw o Brifysgol Bangor yn galw ar bobl yng Nghymru i ystyried newid eu ffordd o fyw er mwyn mynd i’r afael â chynnydd yn lefelau’r môr. Mae Dr Sophie Ward o Ysgol Gwyddorau Eigion y brifysgol wedi bod yn ymchwilio newidiadau i lefelau’r môr dros y canrifoedd yng Nghymru ac ar draws y byd. “Mae’r sefyllfa’n drist. Mae’r penderfyniadau ‘da ni’n gwneud yma yng Nghymru yn effeithio pobol sydd yn byw ar draws y byd,” meddai.
Cymru i weld y gorau o'r tywydd poeth ddydd Sul
Fe allai rhannau o Gymru weld y gorau o'r tywydd poeth unwaith eto ddydd Sul. Daw hyn wrth i'r rhagolygon tywydd ddarogan y bydd rhannau o dde Cymru yn gweld tymereddau o hyd at 30°C. Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 21°C yng Nghaernarfon, 24°C yn ardal Wrecsam, 26°C yn Aberystwyth a 28°C yng Nghaerdydd ddydd Sul.
Cyhuddo dyn wedi ymosodiad rhyw yng Nghaerdydd
Mae dyn 19 oed wedi ei gyhuddo o ddau achos o dreisio yn dilyn ymosodiad ym Mharc Bute, Caerdydd. Bydd Tyler Higgins o'r Waun Ddyfal yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.