Cyhuddo dyn wedi ymosodiad rhyw yng Nghaerdydd
18/07/2021
Mae dyn 19 oed wedi ei gyhuddo o ddau achos o dreisio yn dilyn ymosodiad ym Mharc Bute, Caerdydd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod oriau man y bore dydd Iau, 15 Gorffennaf.
Bydd Tyler Higgins o'r Waun Ddyfal yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.
Mae'n parhau yn y ddalfa.
Llun: Neil Schofield-Hughes