Dyn o Ben Llŷn yn ennill Pencampwriaeth Para Syrffio'r Byd am y drydedd flwyddyn yn olynol
Mae dyn o Ben Llŷn wedi ennill Pencampwriaeth Para Syrffio'r Byd am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Fe enillodd Llywelyn 'Sponge' Williams o Abersoch y gystadleuaeth ar Draeth Huntington yng Nghalifornia ddydd Sul.
Yn 2023 fe enillodd y bencampwriaeth ar Draeth Pismo yng Nghalifornia, a hynny ar ôl iddo lwyddo i’w hennill am y tro cyntaf yn Los Angeles yn 2022.
Wrth ymateb i'r fuddugoliaeth mewn neges ar gyfrwng cymdeithasol Instagram, dywedodd: "Am wythnos yma ar draeth Huntington yn cynrychioli Cymru! Ennill mewn pedwar rhagras allan o bedwar ac amddiffyn fy nheitl y byd am y trydydd tro yn olynol! Dwi'n hollol buzzed!'
Roedd Llywelyn eisiau syrffio ers iddo fod yn ifanc, ac ymunodd â chlwb syrffio pan oedd yn 11 oed.
Fe gollodd ei goes mewn damwain pan oedd yn 16 oed, ond mae wedi parhau i syrffio ac wedi cyrraedd y brig yn y gamp.
"Nesh i ddechra' syrffio efo youth club pan o'n i'n tua 12, 13 oed, a disgyn mewn cariad efo fo'n syth," meddai.
"O'dd fi a tri o'm ffrindiau o adra' yn mynd i syrffio bob tro oeddan ni'n gallu – ar ôl ysgol, cyn ysgol.
"A dw i'n meddwl nath syrffio cal fi drw' be neshi fynd drw' yn ysbyty."
Parasyrffio yn y Gemau Olympaidd?
Dros y misoedd diwethaf, mae Llywelyn wedi bod yn ymgyrchu i gynnwys parasyrffio yng Ngemau Paralympaidd Los Angeles yn 2028.
Cafodd syrffio ei gynnwys yn y Gemau Olympaidd Tokyo yn 2020, ond nid yn y gemau Paralympaidd. Roedd hyn hefyd yn wir am y Gemau ym Mharis eleni.
Bydd y Gemau yn symud i un o ardaloedd syrffio enwoca’r byd ymhen pedair blynedd, sef Los Angeles yng Nghalifornia.
Ond mae trefnwyr y Gemau wedi gwrthod cynnwys y gamp yn y Gemau Paralympaidd oherwydd y "gost a chymhlethdod" o’i chynnal.
Mae Llywelyn a sawl parasyrffwyr blaenllaw arall yn America a Chanada wedi lansio deiseb i roi pwysau ar drefnwyr gemau Los Angeles i gynnwys y gamp.
Lluniau: Llywelyn 'Sponge' Williams