The Original Factory Shop wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr

Original Factory Shop

Mae cwmni The Original Factory Shop wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan arwain at beryglu dyfodol 137 o'i siopau a 1,180 o'i staff.

Mae gan y cwmni nifer o siopau yng Nghymru, yn cynnwys canghennau ym Mangor, Porthmadog, Pwllheli, Y Bermo, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Sanclêr, a Porth yn y Rhondda.

Bydd y cwmni yn parhau i fasnachu o'i siopau ledled y DU wrth i arbenigwyr asesu dyfodol y siopau mewn ymgais i gadw'r cwmni i fynd.

Dywedodd y gweinyddwyr fod trafferthion The Original Factory Shop wedi'u gyrru gan amodau masnachu heriol, sy'n gysylltiedig â chwyddiant, costau uchel, hyder bregus ymysg siopwyr a chostau llafur uwch.

Cyhoeddodd y cwmni ei fwriad i benodi gweinyddwyr yn gynharach y mis hwn, ac mae'r cam yn cynnwys edrych ar ddyfodol ei chwaer-gwmni, y gadwyn siopau ffasiwn Claire's.

Roedd y ddau gwmni wedi cael eu hailstrwythuro'n barod, ac fe gafodd y ddau eu prynu gan y cwmni buddsoddi Modella Capital y llynedd.

Llun: The Original Factory Shop, Porthmadog (Google)

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.