Newyddion S4C

Pencampwr syrffio o Wynedd yn ymgyrchu i gynnwys y gamp yng Ngemau Paralympaidd LA

18/08/2024
Llywelyn Williams

Mae pencampwr parasyrffio y byd, sydd yn dod o Abersoch, yn galw ar bwyllgor y Gemau Paralympaidd i gynnwys parasyrffio fel camp yn Los Angeles yn 2028.

Mae Llywelyn ‘Sponge’ Williams wedi cynrychioli Cymru ar draws y byd yn y gamp, sydd yn rhoi llwyfan i syrffwyr anabl.

Cafodd syrffio ei gynnwys yn y Gemau Olympaidd Tokyo yn 2020 – ond nid yn y gemau Paralympaidd. Mae hyn hefyd yn wir am y gemau ym Mharis eleni.

Bydd y Gemau yn symud i un o ardaloedd syrffio enwoca’r byd ymhen pedair blynedd, sef Los Angeles yng Nghaliffornia.

Ond mae trefnwyr y gemau wedi gwrthod cynnwys y gamp yn y gemau Paralympaidd, oherwydd y ‘gost a chymhlethdod’ o’i chynnal.

Mae Llywelyn yn un o barasyrffwyr gorau  y blaned, wedi iddo ennill Pencampwriaeth y Byd Para Syrffio ddwywaith.

Yn 2023 fe enillodd ar draeth Pismo, yng Nghaliffornia, ar ôl iddo lwyddo i’w hennill am y tro cyntaf yn 2022 – a hynny yn Los Angeles.

Image
LA 28
Bydd y Gemau Olympaidd a Paralympaidd yn cael eu cynnal yn Los Angeles yn 2028 (Llun: Wochit/Getty)

'Cymryd yn ganiataol'

Meddai Llywelyn: “Y ffordd geshi mewn i gystadlu oedd, neshi weld bod syrffio’n mynd i fod yn yr Olympics yn 2020, so neshi gymryd yn ganiataol - ‘fydd hwna’n y Paralympics yr un pryd’. On i’n meddwl be bynnag oedd yn yr Olympics, fydd yn y Paralympics hefyd. 

“Ond natho endio i fyny’n peidio bod yn 2020, so da ni di methu allan blwyddyn yma hefyd. A rŵan, yn 2028, mae’r host city yn deud na achos o’r gost a’r complexity.

“Ond mi fydda nhw di setio i fyny ar gyfer syrffio i’r Olympics, a da ni mond tair wsos wedyn, so ma bob dim di setio i fyny’n barod. Mae o gorfod bod un o’r sports rhata, dim ond tent ti angan ar traeth, di nhw’m yn gorfod talu am buildio stadium neu ddim byd, just traeth.

“Sa chdi methu dewis rywla gwell i gal parasyrffio yn y Paralympics. Dwi di syrffio yn Los Angeles a dwi efo atgofion anhygoel. Mae o’n un o’r llefydd gorau yn y byd i syrffio. Dydi o just ddim yn neud sense.”

Camp sy'n tyfu

Mae Llywelyn a sawl parasyrffwyr blaenllaw arall yn America a Canada wedi lansio deiseb i roi pwysau ar drefnwyr gemau Los Angeles i gynnwys y gamp.

“Mae’n sport sy’n tyfu bob blwyddyn ag mynd yn fwy ag yn fwy.

Image
Parasyrffio
Mae Para Syrffio wedi tyfu dros y 10 mlynedd diwethaf (Llun: Wochit/Getty)

“Mae 'na chwech ohona ni yn gwthio’r petition amdano fo i fod yn y Paralympics, ma’r rei arall yn byw yn America a Canada.

“Yn 2015 oedd y World Champs gynta a mi oedd na ryw 50 o bobol yn cystadlu. Rŵan mae 'na fwy na 260 o bobol dros y byd.

“Swni mewn lle da i gystadlu ynddo fo os mae o’n digwydd. Does 'na ddim Team GB ar y funud, just Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, ond mi fysa ni angan dod at ein gilydd mewn Paralympics. Ac mi fysan ni efo tîm rili cryf."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.