Datganoli plismona i Gymru 'ddim ar yr agenda' yn ôl gweinidog y Swyddfa Gartref
Ni fydd plismona yn cael ei ddatganoli i Gymru yn sgil cynlluniau i uno heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, yn ôl gweinidog y Swyddfa Gartref.
Dywedodd yr Arglwydd Hanson o’r Fflint "nad yw datganoli ar yr agenda" fel rhan o gynlluniau ei adran ar gyfer "model newydd ar gyfer plismona".
Mae plismona wedi’i ddatganoli yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban ond nid yng Nghymru, lle mae’r maes polisi wedi’i gadw i San Steffan.
Dros ddegawd yn ôl roedd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Syr Paul Silk, wedi argymell datganoli plismona.
Roedd yr adroddiad o 2014 hefyd wedi argymell datganoli cyflogau’r heddlu, ond nid pensiynau na’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol.
Dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Wigley: "Bydd y gweinidog, fel cyn AS Cymru, yn cofio Comisiwn Silk yn argymell datganoli agweddau ar yr heddlu a throseddu i Gymru, rhywbeth a gefnogwyd gan lywodraeth Carwyn Jones ac sydd bellach yn cael ei gefnogi gan Brif Weinidog Cymru.
"Pam nad yw’r llywodraeth yn rhoi mwy o gred i’w ffrindiau yng Nghymru nag y maent i weision sifil y Swyddfa Gartref?"
Wrth ymateb iddo, dywedodd yr Arglwydd Hanson, a oedd yn AS Llafur dros Ddelyn yn flaenorol: "Fel preswylydd yng Nghymru, fel AS yng Nghymru am 28 mlynedd, fel person sydd â llawer o ffrindiau yn yr heddlu yng Nghymru o hyd, rwy’n dweud wrtho nad yw datganoli ar yr agenda fel rhan o’r ad-drefnu hwn.
"Mae hyn yn ymwneud ag effeithlonrwydd, rheolaeth leol. A byddwn yn trafod gyda Llywodraeth Cymru nawr – a phwy bynnag sy’n ffurfio llywodraeth Cymru ar ôl etholiadau’r Senedd ym mis Mai – am sut mae’r ad-drefnu hwnnw’n digwydd yng Nghymru.
"Ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Prif Weinidog, Eluned Morgan, ar ôl mis Mai i wneud hynny."
Cyfuno heddluoedd
Daw sylwadau'r Arglwydd Hanson ar ôl i'r Swyddfa Gartref gyhoeddi cynlluniau i ddiwygio plismona yng Nghymru a Lloegr.
Mae 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, ac mae disgwyl y byddan nhw’n cael eu cyfuno i dorri ar gostau gweinyddol ac annog cydweithio.
Ar hyn o bryd mae pedwar llu yng Nghymru, sef Heddlu’r Gogledd, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu’r De a Heddlu Gwent.
Cafodd yr wyth heddlu yn yr Alban eu cyfuno yn un, Police Scotland, yn 2013.
Cafodd cynlluniau tebyg i leihau’r nifer yng Nghymru a Lloegr i 12 eu cyhoeddi 20 mlynedd yn ôl, ond ni wnaeth hynny ddigwydd.
Yn gynharach ym mis Ionawr, fe wnaeth Eluned Morgan alw am i'r Senedd a Llywodraeth Cymru gael pwerau ehangach - dros blismona, rheilffyrdd, cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf.
Wrth siarad mewn digwyddiad Sefydliad y Llywodraeth, dywedodd: "Rwyf am weld datganoli plismona ac, ie, rheilffyrdd.
"Rwyf am weld strwythurau priodol ar gyfer cytundebau rhynglywodraethol a chydraddoldeb parch rhwng y cenhedloedd."
