Busnesau Betws-y-coed yn 'colli pres' yn sgil pont newydd
Busnesau Betws-y-coed yn 'colli pres' yn sgil pont newydd
Mae rhai busnesau ym Metws-y-coed yn anhapus efo’r ffordd mae nhw wedi eu trin gan y cyngor sir wrth i bont droed gael ei chodi dros Afon Conwy.
Roedd yn rhaid dymchwel yr hen Bont Soldiwrs am nad oedd hi’n ddiogel ac mae croesiad newydd, lletach yn cael ei godi ar hyn o bryd.
Ond mae’r clwb golff lleol a pharc carafannau sy’n ddibynnol ar yr unig ffordd heibio’r safle adeiladu yn anfodlon.
Mae Cyngor Sir Conwy yn dweud eu bod wedi ceisio lliniarau effaith y gwaith.
Yn ôl Capten Tîm Merched Clwb Golff Betws-y-coed, Delyth Pierce, mae nhw’n teimlo nad oes ots gan y cyngor am glwb “bach” fel nhw.
“I bobl sydd wedi bwcio tair wsos yn ôl ‘dan ni’n gorfod deud wrthan nhw bod nhw ddim yn cael chwarae.
“Felly be’ ‘dan ni wedi ‘neud ydy peidio cymryd y bwcings yna ymlaen llaw, so ‘dan ni wedi colli’r refiniw yna.
“Dwi jyst yn teimlo mai clwb bach ydan ni a dim ots gan y Cyngor amdanom ni. Ond ‘dan ni yn colli pres a ‘dan ni’n stryglo fel mae hi.”
Wedi ei henwi ar ôl y milwyr a gododd y croesiad cyntaf yn y llecyn yn y Rhyfel Byd Cyntaf, doedd yr ail bont - Pont Soldiwrs - gafodd ei chodi’n 1930 ddim yn ddiogel erbyn 2021 - ac mi gafodd ei chau.
Ar gost o £7m, mi fydd y bont newydd yn lletach ac yn fwy addas ar gyfer beiciau, cadeiriau olwyn a phramiau.
Mi fydd hi’n cysylltu hefo llwybr teithio iach i gyfeiriad Llanrwst.
Ond mae tywallt y cannoedd o dunnelli o goncrid ar gyfer y seiliau weithiau’n golygu cau’r ffordd am y diwrnod.
Er nad oes sail cyfreithiol, mae’r clwb golff wedi gofyn am iawndal gan Gyngor Sir Conwy am dros £5,500.
“I glwb fel ni, ‘dan ni’n glwb bach, ‘dan ni’n stryglo i gadw dau pen llinyn ynghyd, ydy mae o’n swm mawr i ni.” medd Owen Davis sy’n aelod o bwyllgor y clwb golff.
“Mae unrhyw golled yn fawr i ni.”
Busnes arall sydd wedi ei effeithio gan y gwaith ydy parc carafannau Riverside Touring.
Fe gaeon nhw am y gaeaf chwe wythnos yn gynnar oherwydd yr ansicrwydd efo’r ffordd.
Mae nhw’n dweud eu bod yn rhwystredig.
Mae’r parc carafannau a’r clwb golff yn pwysleisio eu bod nhw’n cefnogi’r prosiect ac yn canmol y contractwyr.
Ond mae nhw’n teimlo y gallai Cyngor Sir Conwy fod wedi eu trin yn well.
Mae’r ffordd heibio safle gwaith yn rhedeg heibio mynwent leol ac er mwyn cadw’r lôn ar agor, mae’r contractwyr a’r Cyngor wedi tynnu rhan o wal y fynwent i lawr ac - gyda chaniatad teuluoedd - wedi gosod platform dros dro uwchben rhai o’r beddau i adael i gerbydau deithio.
Roedd hynny “her beiriannyddol” yn ôl Andrew Wilkinson, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogol Cyngor Sir Conwy.
“Wrth gwrs rydyn ni’n ymddiheuro am yr anghyfleustra a’r aflonyddwch ac wedi trio gwneud trefniadau sy’n addas i’r busnesau.
“Yn anffodus does dim sail statudol am iawndal.”
Mae disgwyl i’r bont newydd agor yn yr hydref.