Newyddion S4C

Blog byw: Etholiad arlywyddol UDA '24

Donald Trump a Kamala Harris

Y prif bwyntiau hyd yma:

  • Mae diwrnod yr etholiad wedi cyrraedd o'r diwedd gyda'r blychau pleidleisio ar agor ar draws yr Unol Daleithiau gan gynnwys y taleithiau sy'n debygol o benderfynu'r enillydd, Arizona, Georgia, Michigan, Nevada, North Carolina, Pennsylvania, a Wisconsin.
  • Mae'r Gweriniaethwr a'r cyn-Arlywydd Donald Trump ac ymgeisydd y Democratiaid, yr Is-Arlywydd Kamala Harris yn wynebu ei gilydd mewn ras sy'n rhy agos i ragweld pwy fydd yn ennill.
  • Mae'r blychau pleidleisio bellach wedi cau mewn rhai taleithiau gan gynnwys Georgia.

Crynodeb

  • 01:11

    Y mwyafrif o'r taleithiau allweddol bellach yn cyfri'

  • 23:24

    Y gorsafoedd pleidleisio cyntaf yn cau

  • 22:00

    Pryd y cawn wybod y canlyniad?

  • 21:42

    Cip y tu ôl i'r llenni...

  • 20:35

    Croeso i'r blog byw

Ffrwd byw

01:28

Democratiaid ifanc Philadelphia yn hyderus

Image
Llun: Gwyn Loader
Llun: Gwyn Loader

Prif ohebydd Newyddion S4C Gwyn Loader sy'n gwylio'r canlyniadau wrth iddyn nhw ddod i mewn o dalaith allweddol Pennsylvania...

Yn Philadelphia, rydw i ac Iwan Griffiths mewn parti gwylio canlyniadau gyda Democratiaid ifanc.

Maen nhw’n paratoi am noson hir yma a’r cyflenwadau bwyd swmpus newydd gyrraedd.

“Y’ch chi’n hyderus?” dwi’n gofyn wrth i un dyn gyrraedd.

“Dwi’n gwybod bod ni ‘di ennill eisoes” yw’r ateb hyderus.

Mae’n gynnar eto ond mae hwyliau da ar y rhai sydd yn ymgynnull yn y cadarnle Democrataidd yma.

01:11

Y mwyafrif o'r taleithiau allweddol bellach yn cyfri'

Image
Philadelphia, Pennsylvania
Philadelphia, Pennsylvania. Llun gan Wochit

Mae gorsafoedd pleidleisio wedi cau am 01.00 rŵan mewn rhestr hir o daleithiau allweddol.

O’r saith talaith gystadleuol a fydd yn penderfynu pwy fydd yn fuddugol, dim ond Minnesota, Arizona a Nevada sy’n weddill.

Bellach yn cyfri’ eu pleidleisiau mae:

  • Alabama (mwyafrif y dalaith)
  • Connecticut
  • Delaware
  • Florida (y siroedd gorllewinol oedd yn weddill)
  • Illinois
  • Kansas (mwyafrif y dalaith)
  • Maine
  • Maryland
  • Massachusetts
  • Michigan (mwyafrif y dalaith)
  • Mississippi
  • Missouri
  • New Hampshire
  • New Jersey
  • North Dakota (rhan ddwyreiniol y dalaith)
  • Oklahoma
  • Pennsylvania
  • Rhode Island
  • South Dakota (mwyafrif y dalaith)
  • Tennessee
  • Texas (mwyafrif y dalaith tu hwnt i ddarn gorllewinol)
  • Washington D.C.

Dyma’r canlyniadau yn dod...

00:55

Sut mae pethau'n edrych?

Image
Cefnogwyr Trump yn Florida
Cefnogwyr Trump yn Florida. Llun gan Wochit

Mae'n ddyddiau cynnar, gyda'r gorsafoedd pleidleisio bellach wedi cau yn llwyr mewn dwy o'r taleithiau allweddol, sef Georgia a North Carolina.

Mae Donald Trump ar y blaen yn Georgia a Kamala Harris ar y blaen yn North Carolina ond eto cyfran fach iawn o'r pleidleisiau sydd wedi eu cyfri, ac fel oedden ni wedi nodi yn gynharach mae'r bleidlais sy'n cael ei gyfri' gyntaf yn gallu ffafrio un blaid dros y llall.

Un peth sy'n ymddangos yn weddol sicr ar hyn o bryd yw bod Florida a oedd yn dalaith gystadleuol wedi symud ymhellach i'r dde - gyda thri chwarter y pleidleisiau wedi eu cyfri' mae Donald Trump 10% ar y blaen, ar ôl ennill o 4% yn 2020. Mae wedi bod yn newid byd gwleidyddol yno ers 2012 - y tro diwethaf i'r Democratiaid ennill a hynny o lai nag 1%.

Am 01.00 amser Cymru bydd canlyniadau Pennsylvania a Michigan yn dechrau cyrraedd - taleithiau mae'n rhaid i Kamala Harris eu hennill.

00:15

Y taleithiau cyntaf yn cael eu 'galw' i Harris a Trump

Image
Kamala Harris ar CNN
Kamala Harris ar CNN. Llun gan Wochit

Mae gwasanaethau newyddion yr Unol Daleithiau yn gystadleuol iawn wrth fod y cyntaf i 'alw' taleithiau i'r ymgeiswyr arlywyddol gwahanol.

Mae CNN eisoes wedi dweud mai Trump fydd yn ennill Kentucky, ac mai Harris fydd yn ennill Vermont. Mae ABC wedi 'galw' Indiana i Trump. Ni fydd y canlyniadau rheini yn syndod i unrhyw un a bydd y penderfyniad wedi ei wneud ar sail cyfran isel iawn o'r bleidlais.

Yr unig daleithiau o'r 50 lle mae disgwyl canlyniad agos yw'r saith canlynol: Pennsylvania, Michigan, Wisconsin, Georgia, North Carolina, Arizona a Nevada.

Mae'r bleidlais yn Georgia wedi dechrau dod i mewn yn araf bach. Mae oriau pleidleisio 12 o'r gorsafoedd yn Georgia wedi cael eu hymestyn oherwydd bygythiadau bom, yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol Brad Raffensperger.

Pryd y daw'r canlyniad terfynol?

Mae'r gwasanaethau newyddion hefyd yn gystadleuol wrth gyhoeddi canlyniad y ras gyfan, wrth gwrs. 

Dyma pryd wnaeth Associated Press hynny yn yr etholiadau diwethaf:

  • 2020: Sadwrn, 16.26
  • 2016: Mercher, 07.29
  • 2012: Mercher, 04.38
  • 2008: Mercher, 4.00
  • 2004: Mercher, 16.19

Mae'n debygol felly y cawn ni'r canlyniad heddiw - ond ddim yn sicr!

23:48

Y rhithlun coch

Image
Pleidleisio
Pleidleisio yn Michigan

Mae bellach modd dilyn y canlyniadau wrth iddyn nhw gyrraedd ar sawl gwefan, e.e. Bloomberg. Ond rhaid pwyllo cyn dod i unrhyw gasgliadau ar sail canran isel o'r bleidlais.

Mae yna rywfaint o drafod wedi bod cyn yr etholiad am y 'rhithlun coch' (red mirage).

Mae pleidleisiau mewn ardaloedd gwledig, llai poblog sy'n ffafrio y Gweriniaethwyr yn tueddu i gael eu cyfri yn gynt na phleidleisiau mewn ardaloedd dwys, dinesig sy'n ffafrio y Democratiaid.

Yn hwyrach ymlaen mae yna symudiad glas (blue shift) tuag at y Democratiaid (ond nid yw hynny bob tro yn ddigon i ennill yr etholiadau taleithiol, wrth gwrs).

O ganlyniad, wrth i'r pleidleisiau cyntaf anghyflawn ddechrau cyrraedd ar sail y siroedd (counties) sy'n rhan o daleithiau cystadleuol, mae'n bwysig peidio gor-ymateb nes cael y darlun llawn.

23:24

Y gorsafoedd pleidleisio cyntaf yn cau

Image
Pleidleisio
Pleidleisio yn Las Vegas, Nevada. Llun gan Wochit

Mae'r gorsafoedd pleidleisio cyntaf wedi cau mewn rhannau o Kentucky ac Indiana.

Hanner nos amser Cymru (19.00 ET) yw'r awr fawr oherwydd bryd hynny fe fydd gweddill blychau pleidleisio Kentucky ac Indiana a hefyd rhannau o Alabama yn cau, a hefyd:

  • Georgia
  • Florida (y rhan fwyaf o'r dalaith)
  • Rhai o daleithiau Indiana
  • Kentucky
  • New Hampshire (y rhan fwyaf o'r dalaith)
  • South Carolina
  • Vermont
  • Virginia

Mae'r rhain wrth gwrs yn cynnwys un talaith - Georgia - sydd wedi bod yn gystadleuol iawn yn ystod yr ymgyrch arlywyddol. Nid yw Florida mor gystadleuol bellach ag oedd yn nyddiau Barack Obama, gyda disgwyl i Donald Trump ennill y dalaith yn weddol gyfforddus.

Os yw Donald Trump am gael noson anodd fe allai'r arwyddion cyntaf o hynny ddod i'r amlwg wedi hanner nos.

23:09

Cymro a Chymraes ifanc yn rhan o'r dewis

Mae Cymro a Chymraes ifanc, Elena Gower ac Iwan Pyrs Jones, hefyd wedi bod yn pleidleisio heddiw yr etholiad arlywyddol UDA. 

Aled Huw fu'n siarad â nhw am eu dewis ar raglen Newyddion S4C.

23:02

Pleidleiswyr yn 'ddig' ac yn 'anhapus' medd arolwg barn

Image
Torf Trump
Torf wrth i Donald Trump siarad. Llun gan Wochit.

Mae arolwg barn CNN wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio yn awgrymu bod gan tua thri chwarter yr etholwyr farn negyddol am y ffordd y mae pethau’n mynd yn yr Unol Daleithiau heddiw.

Dim ond tua chwarter sy’n galw eu hunain yn frwdfrydig neu’n fodlon â chyflwr y genedl, gyda mwy na phedwar o bob 10 yn anfodlon a thua tri o bob 10 yn dweud eu bod yn 'ddig'.

Dan amgylchiadau arferol fe allai ffigyrau o'r fath fod yn newyddion drwg i'r blaid sydd mewn grym - ond a ydi'r rhain yn amgylchiadau arferol?

22:26

A fydd ymateb treisgar i ganlyniad yr etholiad?

Hyd yn oed cyn i'r gorsafoedd pleidleisio gau mae Donald Trump eisoes wedi trydar heno ar y cyfrwng cymdeithasol y mae'n berchen arno, Truth Social, yn codi amheuon am yr etholiad.

22:00

Pryd y cawn wybod y canlyniad?

Image
Dol wedi ei weu o Trump.
Dol wedi ei weu o Trump. Llun gan Wochit

Am hanner nos amser Cymru fe fydd y gorsafoedd pleidleisio wedi cau yn Georgia, Indiana, Kentucky, South Carolina, Virginia a Vermont.

Os ydych chi'n bwriadu aros i fyny - neu efallai mynd i'r gwely a deffro eto yn oriau mân y bore - efallai eich bod chi eisiau gwybod pryd y bydd canlyniad yr etholiad yn amlwg.

Yn anffodus mae'n anodd ateb y cwestiwn hwnnw i sicrwydd. Efallai y byddwn ni'n gwybod yn reit bendant erbyn tua 03.00 amser Cymru, ond os yw'n bleidlais yn agos iawn yn y taleithiau allweddol efallai y bydd angen disgwyl am amser hirach.

Gallai fod yn ddyddiau, neu hyd yn oed yn wythnosau os aiff pethau yn flêr...

Dyma ganllaw: Etholiad UDA: Pryd fyddwn ni’n gwybod pwy yw’r Arlywydd nesaf?

21:42

Cip y tu ôl i'r llenni...

'Mae'n edrych yn wahanol iawn i ni fan hyn a sut mae'n edrych ar y teledu!' meddai Maxine Hughes gan roi cipolwg i ni ar yr hyn nad yw'r camera yn ei weld fel arfer.

21:19

'Mae yna ddarogan trais ar y strydoedd fan hyn.'

Mae yna bryderon am yr ymateb pan fydd canlyniadau'r etholiad yn cael eu cyhoeddi, yn enwedig felly os yw Kamala Harris yn trechu Donald Trump.

'Fel newyddiadurwyr da ni'n trafod a oes gyda ni flak jackets gas masks, achos 'da ni yn disgwyl trais ar y strydoedd,' meddai'r newyddiadurwr Maxine Hughes, sy'n byw yn Washington D.C.

20:50

Barn y Cymry ac eraill yn nhalaith Ohio

'Dwi’n poeni ychydig dros ddyfodol gwareiddiad yma.'

Mae gohebwyr Newyddion S4C, Gwyn Loader ac Iwan Griffiths, wedi bod yn nhalaith Ohio yn casglu barn y Cymru sydd bellach wedi ymgartrefu yno, a'r Americanwyr hefyd.

Mae modd darllen eu hargraffiadau yn llawn fan hyn.

20:35

Croeso i'r blog byw

Image
Pleidleisio yn yr etholiad
Pobl yn pleidleisio yn ninas New York

Mae diwrnod yr etholiad wedi cyrraedd yn yr Unol Daleithiau.

Bydd miliynau o Americanwyr yn pleidleisio ar Dachwedd y 5ed ar ôl ymgyrch sydd wedi parhau misoedd lawer.

Mae’r polau piniwn diweddaraf yn awgrymu nad oes yna adain gwybedyn rhwng y ddau ymgeisydd yn y ras, y Gweriniaethwr a'r cyn-Arlywydd Donald Trump ac ymgeisydd y Democratiaid, yr Is-Arlywydd Kamala Harris.

Arhoswch gyda blog byw Newyddion S4C wrth i ni ddod â'r diweddaraf i chi o bob rhan o UDA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.