Newyddion S4C

Etholiad UDA: Pryd fyddwn ni’n gwybod pwy yw’r Arlywydd nesaf?

05/11/2024
Kamala Harris a Donald Trump

Ddydd Mawrth bydd Unol Daleithiau America yn cynnal etholiad i benderfynu pwy fydd Arlywydd nesaf y wlad.

Ond pryd fydd gweddill y byd - gan gynnwys y Deyrnas Unedig - yn cael gwybod y canlyniad?

Mae’r ateb yn gymhleth oherwydd fe allai fod yn amlwg yn weddol gynnar yn y noson pwy fydd yr Arlywydd, neu fe allai gymryd rai diwrnodau neu hyd yn oed wythnosau.

Fe allai’r canlyniad fod yn amlwg yn gynnar iawn oherwydd bod pleidleisiau pobl sy’n mynd i orsafoedd pleidleisio yn cael eu cyfri’ drwy ddulliau cyfrifiadurol yn y rhan fwyaf o’r Unol Daleithiau.

Mae hynny’n golygu nad oes angen cyfri’ bob pleidlais yn unigol â llaw fel sy’n wir yn y Deyrnas Unedig.

Felly fel yn 2016, 2008 a 2004, fe allai fod yn weddol amlwg yn gynnar iawn pwy sydd wedi ennill, a hynny erbyn tua 22.00-23.00 amser arfordir dwyreiniol UDA (tua 03.00-04.00 yn y bore yma). 

Ond mae nifer hefyd yn pleidleisio drwy bostio eu pleidlais i mewn. Os yw’r canlyniad yn agos bydd angen cyfri’ rheiny hefyd cyn bod modd bod yn sicr pwy sydd wedi mynd â hi.

Fe ddigwyddodd hyn yn 2020 pan oedd y bleidlais bost yn sylweddol yn sgil Covid. 

Roedd yr etholiad hwnnw ar y dydd Mawrth. Ond dim ond ar y dydd Sadwrn y penderfynodd rhai gwasanaethau newyddion fel CNN ddatgan i sicrwydd mai Joe Biden oedd yr Arlywydd newydd.

Brwydr gyfreithiol?

Mae’r arolygon barn hefyd yn rhagweld y gallai fod yn ganlyniad hynod o agos. Ac os yw hynny’n wir hyd yn oed ar ôl cyfri'r pleidleisiau post mae’n bosib y bydd cyfnod hir o frwydro cyfreithiol.

Yn etholiad 2000 fe barhaodd y brwydro cyfreithiol am fis cyn i’r Goruchaf Lys benderfynu’n ddadleuol bod George W. Bush wedi trechu'r Is-Arlywydd Al Gore.

Gyda Donald Trump eisoes wedi datgan yn 2020 fod yr etholiad wedi’i ddwyn, a gyda’r Goruchaf Lys yn un â mwyafrif Gweriniaethol arno, mae rhai yn darogan brwydr gyfreithiol debyg eto eleni os yw’n canlyniad mor agos ac mae’r polau piniwn yn ei awgrymu. 

Image
Trump
Tri chynnig i Donald Trump?

Y taleithiau allweddol

Mae'r Unol Daleithiau yn wlad fawr.

Fe fydd pobl ar arfordir gorllewinol y wlad yn parhau i bleidleisio am hyd at chwe awr wedi i’r blychau pleidleisio ddechrau cau tua’r dwyrain.

Mae’r rhan fwyaf o’r taleithiau mwyaf allweddol e.e. Pennsylvania, Michigan a Wisconsin tua’r dwyrain. Mae’n debygol felly y bydd mwyafrif y pleidleisiau wedi eu cyfri erbyn tua 04.00 ddydd Marcher ein hamser ni.

Fe allai’r taleithiau hyn wyro yn amlwg tuag at Kamala Harris neu Donald Trump wrth i’r bleidlais ddechrau dod i mewn o tua 03.00 ymlaen.

Os yw hynny’n wir bydd yn dalcen caled iawn i’r ymgeisydd arall.

Ond mae yna daleithiau cystadleuol eraill, North Carolina a Georgia, a fydd wedi cyfri y rhan fwyaf o’u pleidleisiau erbyn 02.00 amser ni.

Os ydi Kamala Harris yn ymddangos yn hynod o gystadleuol yn Georgia, er enghraifft, fe allai fod yn amen cyn cychwyn bron ar obeithion Donald Trump.

Ond os nad yw’r taleithiau yn nwyrain y wlad yn darparu enillydd amlwg, efallai y bydd yn rhaid disgwyl am ddwy dalaith gystadleuol yn y gorllewin, sef Nevada ac Arizona.

Bydd mwyafrif y pleidleisiau yno wedi eu cyfri’ yno erbyn tua 06.00 amser Prydain.

Yr ateb symlaf felly yw: Yn fwyaf tebygol, yn oriau mân y bore neu yn hwyrach ymlaen ddydd Mercher (tua 03.00-6.00), ychydig yn llai tebygol, yn hwyrach yn yr wythnos, neu dan amgylchiadau eithafol ym mis Rhagfyr!

Llun gan Allison Bailey / AFP.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.