Etholiad UDA: 'Dwi’n poeni dros ddyfodol gwareiddiad yma'
“Dwi’n poeni ychydig dros ddyfodol gwareiddiad yma.”
Yn ei gartref yn Oberlin, gogledd Ohio, mae Rhys Price Jones, o Fangor yn wreiddiol, yn poeni am ymgyrch etholiadol sydd wedi creu hollt yn ei wlad fabwysiedig.
Mae wedi cefnogi’r ddwy brif blaid yn y gorffennol, ond yn teimlo bod natur y dadlau a’r rhethreg sydd yn cael ei ddefnyddio eleni yn ofidus.
“Mae’n apelio at y pethau gwaethaf yn ein plith.”
Cyfeirio mae e at Donald Trump - ymgeisydd y Gweriniaethwyr mewn etholiad sydd, yn ôl arolygon barn, yn hanesyddol o agos.
Yn ninas Cincinnati yn ne’r dalaith, mae Sion Williams yn byw ers degawd. Yn magu dau o blant yma, Bronwen a Griff, mae e am bleidleisio i geisio sicrhau gwell dyfodol i’w blant.
Pwy all sicrhau’r dyfodol llewyrchus yna?
“Dim Trump” yw ei ateb cadarn.
Mae’n poeni am yr iaith mae’r dyn busnes yn ei ddefnyddio “a’r ffaith bod ‘na gelwyddau, a chredu’r celwyddau, neu y gwir - ond fersiwn arall o’r gwir” yn cael ei gynnig i bleidleiswyr.
Ond oni bai fod y Gweriniaethwyr yn cael diwrnod annisgwyl o wael heddiw cyn i’r blychau pleidleisio gau, y tebygrwydd yw mai Donald Trump fydd yn ennill talaith Ohio.
Mae ganddo gefnogaeth gref mewn ardaloedd gwledig ac hefyd mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol yn y dalaith.
“Have you visited the Kamala Harris store yet?” gofynna un cefnogwr.
Rydan ni mewn “Trump store”- hen garej wedi’i droi’n siop yn llawn trugareddau lliwgar yn dangos cefnogaeth i’r ymgeisydd gweriniaethol.
“There isn’t one!” meddai’r cwsmer wedyn dan chwerthin.
Ger y cownter, mae cwsmer arall newydd brynu delwedd cardfwrdd o Donald Trump am $100. Wrth gario’r Trump maint go iawn i’w char dan ei chesail, mae’n esbonio ei bod am ei arddangos o flaen ei chartref.
Does dim amheuaeth bod apêl mawr i neges unigryw Donald Trump.
Yn ôl rheolwr y siop Donald Anderson, yr economi yw’r prif reswm mae’n cefnogi Donald Trump.
“Americans have always voted with their pocket book.
“The economy is pitiful right now.
“Inflation is around 25-30 per cent and the average raise in this country is around three per cent. So you do the math on that.”
2.44% yw gwir lefel chwyddiant yn America ar hyn o bryd.
A dyw iaith Donald Trump yn poeni dim ar y cefnogwr brwd yma, sydd yn credu honiadau’r Gweriniaethwr gyhoeddodd, heb unrhyw sail, bod mewnfudwyr yn bwyta anifeiliaid anwes yn y dalaith hon. “They gotta eat something” yw ei ateb wrth i fi ei holi am hynny.
Ond mae’n cydnabod bod yna raniadau dwfn o fewn y wlad. Beio Democratiaid eithafol mae e am hynny.
Ar gownter y siop, mae ganddo bêl fas gyda’r geiriau “F**k Trump” wedi ysgrifennu mewn llythrennau bras drosti. Pêl daflwyd at y siop bythefnos nôl.
Mae yna hefyd lythyr gafodd ei anfon gyda baner Natsïaidd wedi lliwio arno - ac awgrym bod Donald Trump a’i ddilynwyr yn ffasgwyr asgell dde eithafol.
“Pam bod pobl yn anfon llythyrau fel hyn atoch?” dwi’n gofyn.
“Am eu bod nhw heb eu haddysgu ac yn anwybodus. Mae hynny’n amlwg,” esbonia Donald yn daer.
Mewn America ranedig, mae’r farn gyhoeddus wedi’i begynnu’n llwyr.
Bydd rhaglen Newyddion S4C yn darlledu’n fyw o America drwy gydol yr wythnos am 19:30.