Blwyddyn newydd, iaith newydd: Cynnydd mewn dysgwyr Cymraeg ym mis Ionawr

Grŵp Dysgu Field Studies Council ar daith tu allan

Mae Ionawr yn fis lle mae llawer o bobl yn dysgu sgiliau ar ôl gwneud addunedau'r flwyddyn newydd, ac mae'n ymddangos fod twf yn nifer y dysgwyr Cymraeg yr adeg yma o'r flwyddyn hefyd.

Yn ôl adroddiad gan yr ap dysgu ieithoedd poblogaidd Duolingo, mae tua 30-50% o gynnydd yn nifer y bobl sydd yn defnyddio'r ap i ddysgu iaith newydd bob mis Ionawr. 

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dweud bod llawer o bobl yn dechrau dysgu Cymraeg gyda nhw hefyd ym mis Ionawr.

Mae'r neges 'Blwyddyn Newydd, Cyfle Newydd' yn un sydd yn cael ei defnyddio ar eu deunydd marchnata. 

Er y bwrlwm blynyddol, mae mwyafrif o gyrsiau'r ganolfan yn dechrau ym mis Medi, i gydfynd â dechrau'r flwyddyn academaidd. 

Dechreuodd Jonathan Davies ddysgu Cymraeg fel adduned blwyddyn newydd yn 2020, ac mae’n gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg yn ardal Bae Abertawe erbyn hyn. 

Image
Jonathan Davies yn edrych at y gamera am lun

"Dechreuais i dysgu Cymraeg ar y 1af o Ionawr, 2020 - felly dyma'r chweched blwyddyn." 

Roedd yn arfer byw yn Llundain tan 2024 gyda'i ddau ffrind oedd yn gallu siarad Cymraeg.

"Oeddwn i ffili deall beth roedde nhw yn dweud tra o'dd nhw yn dechrau sgyrsio yn Gymraeg, felly oeddwn i'n deimlo'n rili 'left out'.

"Felly, penderfynais i jyst wneud e rili.

"Oedd e (Ionawr) jyst yn teimlo fel yr adeg cywir i ddechrau - fel dechreuais i ddysgu ar Duolingo ar Ionawr 1af 2020, a dyna sut wnes i ddysgu am y naw fis gyntaf. 

"Wedyn wnes i gwrs gyda Dysgu Cymraeg." 

O ddysgu i addysgu

Ar ôl ddechrau ei gwrs mynediad gyda Dysgu Cymraeg, fe wnaeth Jonathan sylweddoli fod yr holl ymarfer ar Duolingo a gyda help ei ffrindiau, wedi ei wneud yn hyderus.

Fe fuodd yn astudio ar y cwrs am dros flwyddyn a hanner. 

Fe wnaeth tiwtor Jonathan ofyn i'w phennaeth ar y pryd os byddai modd i Jonathan arwain y cwrs oherwydd safon ei iaith.

Mae Jonathan bellach yn gweithio iddyn nhw hyd at heddiw.

Cafodd gynnig i weithio fel tiwtor ar eu cwrs 'Dechrau Dysgu gyda Ni' ym mis Mehefin 2022, cyn dechrau gweithio fel tiwtor cyswllt ar gyrsiau mynediad ym mis Hydref yr un flwyddyn. 

"Os wyt ti yn dysgu Cymraeg, mae rhaid i ti jyst defnyddio fe. Dyna beth sydd wedi helpu fi, jyst rhoi cynnig arni. Beth yr wyt ti wedi dysgu, mae raid i ti defnyddio, neu be ydy'r pwynt?", meddai,

'Mynd amdani'

Dechreuodd criw o staff yr elusen Cyngor Astudiaethau Maes yng nghanolfan awyr agored Rhyd-y-Creuau ddysgu Cymraeg ym mis Ionawr y llynedd. Maen nhw wedi cytuno eu bod nhw oll am sefyll arholiad mynediad fel dosbarth ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Dywedodd tiwtor y dosbarth, Mair Rees, eu bod yn "griw hwyliog a brwdfrydig." 

Image
Grŵp dysgwyr Field Studies Council allan ar daith

"Mae nhw yn Rhyd-y-Creuau yn y ganolfan awyr agored, enw'r cwmnï ydy Field Studies Council, felly mae nhw yn arbenigo mewn gwaith maes ac mae gyda nhw lot o grwpiau yng ngwaith beioleg, gwyddoniaeth, daearyddiaeth yn dod yma i astudio yn yr afon - felly mae lot o beth maen nhw yn wneud yna yn wyddonol." 

Mae'r grŵp yn hynod o awyddus i ddysgu Cymraeg. Dywedodd un o'r dysgwyr, Georgia, wrth Mair ei bod wedi ei ysgrifennu ar gofnod fel adduned blwyddyn newydd personol. 

"Mae nhw wedi dechrau cydweithio hefo CBAC, achos mae rhan o'r TGAU Daearyddiaeth wedi newid i gynnwys mwy o waith maes - felly gan bod nhw yn arbenigo yn gwaith maes yn yr ardal yna, wnaeth CBAC cysylltu efo nhw i weld os bydde nhw yn helpu diweddaru ar ychydig o hyfforddiant i athrawon yng Nghymru.

"Yn amlwg, mi oedd hynny yn ddwy-ieithog." 

Yn ôl Mair, fe wnaeth hyn ysbrydoli'r grŵp i gydweithio gydag ysgolion Gymraeg hefyd. 

Yn ddiweddar, mae nhw wedi derbyn grant gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar brosiect yn yr afon leol, sy'n rhoi cyfle i ysgolion lleol i fynd yno i wneud diwrnod o waith maes. 

"Pan mae'r ysgolion Cymraeg o'r ardal wedi dod, mae nhw wedi bod yn gweithio yn y 'boot room' lle mae nhw yn gael y cit i gyd."

"Dysgu trwy wneud" 

O ddydd i ddydd, mae'r criw fel arfer yn gweithio yn yr awyr agored, ac mae Mair wedi ymuno â nhw i gynnal gwersi byd natur.

"Rydyn ni hefyd wedi cael gwers yn cerdded i fyny'r Wyddfa. So mae nhw yn ddosbarth eithaf unigryw a rydyn ni wedi cael lot o ryddid i weithio hefo nhw a rhoi beth mae nhw angen," meddai.

Mae'r ffordd y mae'r criw yn dysgu'n unigryw, gyda Mair yn ymuno â nhw i weld pa dermau a phatrymau iaith sydd eu hangen.

"Er mae'n bwysig i fynd drwy'r cwrslyfr, mae nhw yn reit unigryw fan hyn - dwi eisiau rhoi termau, patrymau a geirfa y galle nhw ei ddefnyddio ac maen nhw eisiau eu defnyddio." 

Image
Criw ar dop mynydd gyda baner Dysgu Cymraeg/Learn Welsh!

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.