Tsieina yn 'cyfri' i'r DU medd Starmer wrth iddo baratoi i ymweld â'r wlad
Mae Keir Starmer ar ei ffordd i Tsieina i ymweld â'r wlad, y Prif Weinidog Prydeinig cyntaf i wneud hynny ers 2018.
Y disgwyl yw y bydd yn cyfarfod yr Arlywydd Xi Jinping yn ddiweddarach.
Mae'n ymgais gan Lywodraeth y DU i wella'r berthynas gyda'r wlad. Ond mae rhai yn dweud bod angen bod yn ddrwgdybus o Tsieina a bod ganddi safbwyntiau gwahanol iawn ynglŷn â'r byd.
Mae newyddiadurwyr wedi codi'r cwestiwn a fydd y Prif Weinidog yn codi materion ynglŷn â hawliau dynol gyda'r arlywydd yn ystod yr ymweliad.
Ateb Stryd Downing oedd y byddai'r Prif Weinidog yn codi "materion heriol lle mae ein gwerthoedd a'n buddiannau yn wahanol".
Mae Tsieina wedi cael ei chyhuddo o gyflawni troseddau dynoliaeth yn erbyn y boblogaeth Uyghur a grwpiau ethnig eraill yng ngogledd orllewin ardal Xinjiang. Mae mwyafrif y grwpiau yn rhai Moslemaidd.
Hefyd mae yna bryderon am weithgarwch ysbïo'r wlad ym Mhrydain. Yn ddiweddar fe wnaeth pennaeth yr MI15 rhybuddio bod Tsieina yn fygythiad dyddiol cenedlaethol i ddiogelwch y DU.
Ond mae'r llywodraeth yn mynnu bod yr ymweliad yn un pwysig.
Fe ddywedodd Starmer cyn iddo gychwyn ar ei daith: "Am flynyddoedd mae ein hagwedd ni tuag at Tsieina wedi bod yn anghyson- yn gynhesol ac yna yn oeraidd, o'r Oes Aur i Oes yr Iâ. Ond boed ni'n hoffi hyn neu beidio'r ffaith yw bod Tsieina yn cyfri i'r DU.
"Fel un o chwaraewyr economaidd mwyaf y byd, mae perthynas gyson a strategol gyda nhw yn mynd i fod yn fuddiol i ni. Dyw hynny ddim yn golygu troi llygad ddall i'r heriau maen nhw'n ei rhoi- ond parhau i gadw'r drws yn agored hyd yn oed pan rydyn ni yn anghydweld."
Mae 60 o arweinwyr busnes a diwylliant hefyd ar y trip. Yn eu plith mae cynrychiolwyr o fanc HSBC, Y Theatr Genedlaethol a Jaguar Land.
