Cyllideb Llywodraeth Cymru wedi ei chymeradwyo yn y Senedd

Senedd

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi ei chymeradwyo ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ar ôl i'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford ddod i gytundeb â Phlaid Cymru.

Mewn pleidlais yn y Senedd nos Fawrth, roedd 25 aelod o blaid, 14 wedi ymatal, ac 13 yn gwrthwynebu'r gyllideb gwerth £27.5 biliwn.    

Er mai Llafur y'wr blaid fwyaf yn y Senedd ym Mae Caerdydd, does ganddyn nhw ddim mwyafrif, ac felly roedd angen iddyn nhw ddod i gytundeb gydag un o'r gwrthbleidiau, er mwyn bwrw ymlaen â'r pecyn ariannol. 

Yn rhan o'r cytundeb, dewisodd Plaid Cymru ymatal rhag pleidleisio, a chaniataodd hynny i'r gyllideb basio. 

Yn gyfnewid am hynny, cytunodd Llywodraeth Cymru i neilltuo rhagor o arian ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd a llywodraeth leol. 

Mae'r pecyn terfynol yn cynnwys £112.8 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer cynghorau, a £180 miliwn yn ychwanegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys pecyn cymorth gwerth £116 miliwn i fusnesau dros gyfnod o ddwy flynedd, er mwyn eu cynorthwyo gydag effaith y newidiadau i gyfraddau busnes.   

Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, bydd y gylideb yn rhoi "sicrwydd a sefydlogrwydd" i wasanaethau cyhoeddus. 

Fe wnaeth e ddiolch i Blaid Cymru am gymryd rhan mewn trafodaethau "adeiladol".

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd aelod Plaid Cymru, Heledd Fychan: "Yn hytrach na chymeradwyo'r gyllideb hon, mae Plaid Cymru wedi darparu sefydlogrwydd sydd ei angen ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, gan sicrhau ein bod yn osgoi sefyllfa helbulus, os na fyddai'r gyllideb wedi ei phasio." 

Dywedodd Sam Rowlands AS o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Mae'r gyllideb hon wedi methu â mynd i'r afael â'r pwnc pwysicaf, sef ein heconomi.

"Mae'n ymddangos yn thema glir gan Lywodraeth Cymru nad yw'r economi yma yng Nghymru yn flaenoriaeth." 

Ond mynnodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, fod y gyllideb "yn rhoi pobl Cymru yn gyntaf".

Ychwanegodd: "Fe ddwedon ni y bydden ni’n rhoi mwy o arian i wasanaethau cyhoeddus, ac fe wnaethon ni hynny.

"Mae'r bleidlais heddiw yn sicrhau £27.5bn ar gyfer pobl, cymunedau a busnesau ar draws Cymru – sef £1.2bn yn fwy nag yn y flwyddyn ariannol bresennol.

"Mae'n rhoi sefydlogrwydd ar gyfer gwasanaethau allweddol ac mae wedi’i seilio ar ymrwymiad y Llywodraeth hon i degwch a chyflawni."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.