Neil Foden 'wedi rhwystro ymchwiliad' i gyhuddiadau difrifol yn erbyn athro arall

foden 2.png

Roedd y pedoffeil Neil Foden wedi "rhwystro ymchwiliad" i gyhuddiadau fod athro arall wedi cael perthynas amhriodol gyda disgybl yn ei ysgol, yn ôl swyddog undeb.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ym mis Gorffennaf 2024, ar ôl ei gael yn euog o 19 o gyhuddiadau yn ei erbyn am droseddau rhyw yn erbyn pedair merch.

Mewn rhaglen ddogfen newydd ar S4C dywedodd Colin Adkins, swyddog undeb athrawon y NASUWT, ei fod wedi derbyn cofnodion o gyfarfod yn ddamweiniol a bod y cynnwys wedi "ei ddychryn."

Roedd yr adroddiad yn sôn bod athro wedi cael "perthynas gwbl amhriodol honedig gyda phedwar o ddisgyblion, un oedd yn dyddio ‘nôl o leiaf dair blynedd," meddai Mr Adkins.

“Yn amlwg, mae unrhyw berthynas rywiol rhwng athro a disgybl nid yn unig yn gwbl amhriodol, mae’n gamdriniaeth rywiol," meddai.

“Wrth i mi ganolbwyntio ar yr ystyriaethau a gafodd eu cyflwyno yn y cyfarfod, fe welais yn glir bod Foden wedi manipiwleiddio’r broses i rwystro’r cyhuddiadau hyn rhag cael eu hymchwilio’n annibynnol."

Nid oedd y corff llywodraethol yn ymwybodol o’r cyhuddiadau yn erbyn yr athro.

Image
Neil Foden
Neil Foden ar ôl cael ei garcharu ym mis Gorffennaf 2024. (Llun: Andrew Price)

Mae'r newyddiadurwr Bryn Jones wedi bod yn ymchwilio i'r cyhuddiadau.

Dywedodd fod cyhuddiad arall yn erbyn athro gwahanol yn honni ei fod wedi “cael sws efo disgybl ysgol” ar noson allan, er ei fod yn gwadu iddo wneud unrhyw beth o’i le.

Fe ddaeth Mr Jones i ddeall fod yr athro wedi cael ymddiswyddo gyda geirda, ar ôl dod i gytundeb gyda Neil Foden y byddai ymchwiliad y llywodraethwyr yn dod i ben cyn ei gwblhau.

“O’dd o ddim yn gweld dim dyfodol iddo fo yn Friars [yr ysgol lle yr oedd Foden yn bennaeth] achos do’dd Neil Foden, o’dd o ddim yn meddwl, yn mynd i roi chwarae teg iddo fo,” meddai Mr Jones.

“Doedd o ddim isho bod yna, ac felly ar sail hynny nath o benderfynu ‘reit, dwi am adael’.

“Y prif beth oedd yn dod allan oedd, boed o’n deud y gwir neu beidio, o’dd o ‘di gallu mynd hefo reference, heb i’r broses disgyblu orffen, so heb iddyn nhw edrych mewn iddo fo’n iawn.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio i honiadau o gam-drin gan Neil Foden ac wedi arestio dau ddyn arall yn sgil yr ymchwiliad yn 2025.

Fe fydd Foden: O Brifathro i Bedoffeil, ar gael i’w gwylio ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer o ddydd Mawrth 27 Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.