Ymestyn trwydded ar gyfer gornest Fury v Joshua er gwaethaf cwynion trigolion lleol
Mae'r drwydded ar gyfer yr ornest hir-ddisgwyliedig rhwng Tyson Fury ac Anthony Joshua yng Nghaerdydd wedi cael ei hymestyn a hynny er gwaethaf cwynion gan rai trigolion lleol.
Bydd Stadiwm Principality yn cynnal yr ornest fwyaf yn hanes bocsio Prydain ar ddydd Gwener, 11 Rhagfyr.
Er i leoliad yr ornest gael ei gyhoeddi ddeufis yn ôl, roedd angen cymeradwyo newid i drwydded y safle er mwyn caniatáu cynnal yr ornest yn ystod oriau mân y bore.
Fe ddatgelodd Cyngor Caerdydd y byddai disgwyl i’r bocswyr ddechrau cerdded i’r sgwâr bocsio am tua 01.00, ar ôl perfformiad cerddorol byw ac y byddai'r stadiwm yn aros ar agor tan 03.30.
Daeth y cais i newid trwydded y safle dan fygythiad ar ôl i drigolion lleol fynegi pryder y byddai’r digwyddiad yn achosi “anhrefn llwyr” i’r rheini sy’n byw ger y stadiwm, ac felly Cyngor Caerdydd oedd am wneud y penderfyniad.
Ond mewn cyfarfod o is-bwyllgor trwyddedu Cyngor Caerdydd ddydd Mercher, cymeradwyodd y cynghorwyr y cais i ymestyn yr oriau sy'n cael eu caniatáu ar gyfer bocsio a reslo ar noson yr ornest.
Bydd hawl i'r ornest barhau tan 03.00, yn hytrach na gorfod gorffen erbyn 01.00.
Tocynnau
Ym mis Hydref, fe gafodd y tocynnau cyffredinol ar gyfer yr ornest eu gwerthu i gyd mewn llai nag awr, gyda rhai yn costio dros £13,000.
Mae disgwyl i tua 80,000 o gefnogwyr allu gwylio'r ddau focsiwr ym Mhencampwriaeth pwysau trwm y byd yn Stadiwm Principality ar 11 Rhagfyr.
Roedd prisiau'r tocynnau'n amrywio o £88.50 i £13,128, gan gynnwys ffioedd archebu.
Dyma fydd y tro cyntaf i Fury, sy'n 38 oed, a Joshua, sy'n 36 oed, wynebu ei gilydd mewn gornest broffesiynol, wedi blynyddoedd o drafodaethau ynghylch trefnu'r ornest.
Mae'r ddau wedi bod yn bencampwyr pwysau trwm y byd ddwywaith.