'Cyfleoedd wedi eu colli' i amddiffyn bachgen a gafodd ei lofruddio gan ei daid a’i nain

Ethan Ives-Griffiths

Fe gollodd asiantaethau yng ngogledd Cymru gyfleoedd i amddiffyn bachgen dwy oed a gafodd ei lofruddio gan ei daid a’i nain, yn ôl adroddiad newydd.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi ymddiheuro “yn ddiamod” ar ôl i adolygiad i farwolaeth Ethan Ives-Griffiths ddod i’r casgliad na wnaeth yr asiantaethau weithredu pan geisiodd ei dad godi pryderon. 

Wnaeth yr asiantaethau ddim ychwaith ystyried gwybodaeth am hanes y teulu.

Dywedodd yr adroddiad bod mam Ethan Ives wedi adrodd yn rheolaidd yn ystod ei phedwar beichiogrwydd ei bod wedi ei cham-drin yn gorfforol yn ystod ei phlentyndod.

Roedd hynny wedi ei gofnodi yn yr Asesiadau Iechyd Cyn Geni ond ni chafodd y wybodaeth ei rannu gyda Gwasanaethau Plant yr Awdurdod Lleol.

Cafodd Michael Ives, 48 oed, a Kerry Ives, 46 oed, eu dedfrydu yn euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug y llynedd o lofruddio Ethan ym mis Awst 2021.

Roedd 40 o gleisiau neu farciau i’w gweld ar gorff Ethan pan lewygodd gydag anaf i’w ben yn eu cartref yn Garden City yn Sir y Fflint.

Cafodd mam Ethan, Shannon Ives, 29, hefyd garchar am achosi neu ganiatáu ei farwolaeth ac am greulondeb tuag at blentyn.

'Nid yw'n hawdd ei ddarllen'

Wrth ymateb i’r adolygiad ymarfer plant, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mercher, dywedodd Nicola Stubbins, cyd-gadeirydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru: “Nid yw’r adolygiad hwn yn hawdd ei ddarllen.”

Ychwanegodd: “Ymddiheurwn yn ddiamod na wnaeth y systemau aml-asiantaeth hynny amddiffyn Ethan fel y dylent fod wedi ei wneud. 

“Mae dyletswydd arnom i sicrhau bod y gwersi hanfodol o’r achos hwn yn arwain at newidiadau parhaol i’n hymarfer proffesiynol.”

Yn ôl yr adroddiad, roedd 36 o atgyfeiriadau neu gofnodion o bryder am Ethan neu ei deulu agos ers 2016. 

Roedd y rhain yn cynnwys adroddiadau am drais domestig difrifol, digartrefedd a phroblemau’r rhieni o ran camddefnyddio sylweddau. 

Cafodd cyfran uchel o’r achosion eu cau heb gymryd camau pellach ar ôl i’r teulu beidio ag ymgysylltu â’r gwasanaethau.

Roedd y teulu’n adnabyddus i’r gwasanaethau iechyd ac addysg, i wasanaethau plant Cyngor Sir y Fflint ac i Heddlu Gogledd Cymru. 

Ond yn ôl yr adroddiad, roedd gallu’r asiantaethau i gadw golwg ar ofal y plant wedi lleihau’n sylweddol. 

Roedd sawl rheswm am hynny, gan gynnwys problemau staffio, nifer fawr o atgyfeiriadau, methiant i ddilyn gweithdrefnau, anawsterau wrth gael gafael ar wybodaeth a phenderfyniad y teulu i rwystro’r asiantaethau rhag gweld Ethan.

Image
Lluniau yr heddlu
Michael a Kerry Ives, naid a taid Ethan

‘Diffyg cefnogaeth’

Ar 9 Mehefin 2021, gadawodd Ethan, ei fam a gweddill y plant y cartref roedden nhw’n ei rannu â’i dad, Will Griffiths, oherwydd trais domestig.

Yn ôl yr adroddiad, dywedodd uwch-ymarferydd wrth weithiwr cymdeithasol y teulu am beidio â gwneud dim y gallai rhywun ei ddehongli fel rhoi’r plant yng ngofal yr awdurdod lleol.

Rhoddodd yr ysgol arian i Shannon Ives i dalu am dacsi i fynd â hi a’i phlant i gartref ei chwaer. 

Roedd staff yr ysgol yn meddwl y byddai Ethan yn ddiogel yno, heb sylweddoli mai dyna fyddai’r cam cyntaf yn y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at ei farwolaeth, yn ôl yr adroddiad.

'Diffyg cefnogaeth'

Dywedodd yr adroddiad: “Mae’r staff hyn yn parhau i deimlo effaith y wybodaeth hon hyd heddiw, ac maent wedi nodi’r diffyg cefnogaeth gan eu hasiantaethau ers i hyn ddigwydd.”

Yn ôl yr adolygiad, cafodd cyfle ei golli i symud y teulu i le diogel. Roedd problemau staffio yn y gwasanaeth plant wedi effeithio ar ei allu i amddiffyn y plant.

Nododd swyddogion heddlu oedd yno ar 9 Mehefin fod tad Ethan yn “erfyn” ar y gweithiwr cymdeithasol i beidio â mynd ag Ethan at ei daid a’i nain. 

Ond doedd dim cofnod bod yr wybodaeth honno wedi’i rhannu â’r gwasanaeth plant.

Dywedodd Mr Griffiths wrth yr adolygwyr ei fod wedi cysylltu â Chyngor Sir y Fflint i fynegi pryderon am fam Ethan a’i rhieni, ond na wnaeth neb wrando arno.

Ychydig iawn o wybodaeth am Ethan oedd yn y ffeiliau a’r adroddiadau, ac ychydig iawn o sôn amdano fu yn y trafodaethau, yn ôl yr adolygiad. 

Pan wnaeth yr heddlu atgyfeiriad diogelu am y digwyddiad ar 9 Mehefin, doedd dim sôn am Ethan ynddo, er ei fod yno ar y pryd.

Dywedodd yr adroddiad: “O’r wybodaeth sydd wedi cael ei rhannu, gallwn ddweud na chafodd llais Plentyn E ei glywed.”

Image
Shannon Ives
Shannon Ives, mam Ethan

Ceisio ymweld

Yn ddiweddarach ym mis Mehefin 2021, symudodd Ethan i fyw gyda’i daid a’i nain yn Garden City ar Lannau Dyfrdwy. Doedd gwasanaethau plant Cyngor Sir y Fflint ddim yn gwybod hynny ar y pryd.

Cafodd enwau Ethan a gweddill y plant eu rhoi ar y gofrestr amddiffyn plant ar 6 Gorffennaf. Roedd hynny’n golygu y dylai’r gwasanaethau fod wedi gweld y plant o leiaf unwaith bob 10 diwrnod.

Ond yn ôl yr adroddiad, aeth 12 diwrnod gwaith heibio ar ôl rhoi enwau’r plant ar y gofrestr cyn i’r gwasanaethau eu gweld. 

Roedd cyfanswm o 42 diwrnod wedi mynd heibio ers i’r gwasanaethau eu gweld ddiwethaf.

Ar 7 Gorffennaf, dywedodd Shannon Ives wrth y gwasanaethau plant fod Ethan yn byw gyda’i daid a’i nain. Yn ôl yr adolygiad, doedd dim cofnod bod neb wedi gwirio sut roedd Ethan, a doedd neb wedi newid ei gyfeiriad ar y system gyfrifiadurol.

Y tro diwethaf i weithiwr cymdeithasol weld Ethan oedd ar 22 Gorffennaf 2021. Roedd y gweithiwr cymdeithasol newydd ddechrau gweithio ar ei achos.

Ceisiodd y gweithiwr cymdeithasol ac ymwelydd iechyd ei weld sawl gwaith ar ôl hynny, ond bob tro fe wrthododd y teulu adael iddyn nhw ddod i mewn i’r tŷ. 

Yn ôl yr adroddiad, roedd ei daid, ei nain a’i fam yn cuddio’r ffaith ei fod yn ddifrifol wael ar ôl ymosodiadau corfforol arno.

Yn ôl yr adolygiad, fe gollwyd cyfle i godi’r mater ar lefel uwch pan nad oedd yr asiantaethau’n gallu gweld y plant.

Dywedodd yr adroddiad: “Wrth edrych yn ôl, rydym yn awr yn gwybod y byddai ystyriaeth wedi gallu cael ei rhoi i gamau i fynnu gweld y plant.”

Ymateb y cyngor

Mae’r adroddiad yn cynnwys 16 o argymhellion. Mae hefyd yn nodi gwersi am bwysigrwydd gwybod hanes teulu a bod yn chwilfrydig fel gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â gwersi am weithdrefnau diogelu, gwasanaethau plant a systemau TG.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir y Fflint: “Er mai’r unigolion a gafodd eu dyfarnu’n euog o’r drosedd sy’n gyfrifol am lofruddio Ethan, rydym ni, fel Cyngor yn ymddiheuro bod cyfleoedd i wneud mwy wedi cael eu colli ac na chafodd y lefel o amddiffyniad yr oedd yn ei haeddu. 

“Rydym yn cydnabod yr oedd ein gwasanaethau’n rhan o’r ymateb diogelu ac yn derbyn ein cyfrifoldeb am y diffygion a nodwyd yn yr adolygiad. 

“Mae’n wir ddrwg gennym am y meysydd lle wnaethom adael Ethan i lawr.”

Dywedodd y Prif Uwch-Arolygydd Sian Beck o Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn cydnabod yr oedd meysydd lle allai Heddlu Gogledd Cymru fod wedi gwella ei ymateb, ac rydym yn ymddiheuro i dad Ethan, a’i deulu, am hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.