Pobl yn cael 'llai o ryw ond yn gwylio mwy o bornograffi'
Mae astudiaeth newydd wedi dangos bod pobl ym Mhrydain yn cael llai o ryw nag oedden nhw yn y 1990au.
Ond mae'r ymchwil gan Arolwg Cenedlaethol Agweddau ac Ymddygiad Rhywiol (Natsal) hefyd yn dangos bod mwy o bobl yn gwylio pornograffi ac yn anfon negeseuon a lluniau rhywiol.
Roedd hanner y bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed a gafodd eu holi wedi anfon neu dderbyn lluniau rhywiol ar eu ffonau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd bron i naw o bob deg o'r dynion ifanc a hanner y menywod ifanc wedi gwylio pornograffi.
Er hynny, nid oedd traean o'r grŵp hwn erioed wedi cael rhyw.
Mae oedolion o dan 45 oed hefyd yn cael llai o ryw, gan gael rhyw ddwywaith y mis ar gyfartaledd. Unwaith yr wythnos oedd y cyfartaledd yn 1990.
Dyma'r tro cyntaf i Natsal ofyn am ymddygiad pobl ar-lein.
Mae'r ymchwilwyr yn dweud na wnaethon nhw ofyn am ddeallusrwydd artiffisial na pherthnasoedd rhithwir, ond ei bod yn bosibl y byddan nhw'n gwneud hynny yn yr astudiaeth nesaf.
Effaith AI ar ymddygiad rhywiol?
Dywedodd Soazig Clifton, sy’n aelod o dîm Natsal ac yn gweithio yng Ngholeg Prifysgol Llundain: “Pan wnaethon ni gynnal ein gwaith maes yn 2022-24, roedd hynny’n swnio braidd fel rhywbeth allan o ffilm ffuglen wyddonol.
“Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn edrych ar effaith deallusrwydd artiffisial ar ymddygiad rhywiol pobl ac ar eu perthnasoedd, gan ystyried pethau fel cymdeithion rhithwir sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial.”
Yn ôl yr Athro Wendy Macdowall, o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, mae sawl rheswm pam mae pobl yn cael llai o ryw.
Un rheswm yw'r defnydd o sgriniau, ond mae'n debygol bod nifer o resymau eraill, meddai'r Athro Macdowall, sy'n un o awduron yr astudiaeth, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.
Mae pobl ifanc heddiw yn yfed llai o alcohol na chenhedlaethau cynt. Mae mwy o ymwybyddiaeth hefyd o bwysigrwydd cydsyniad. Gallai cynnydd mewn achosion o salwch meddwl fod yn rheswm arall.
Mae'r astudiaeth hefyd yn awgrymu bod pobl ifanc yn aros yn hirach cyn cael rhyw. Mae bron i ddwy o bob pump o fenywod ifanc (38%) a mwy nag un o bob pedwar dyn ifanc (28%) bellach yn dweud nad ydyn nhw erioed wedi cael rhyw.
Casgliad arall yw bod mwy o fenywod yn dweud nad ydyn nhw eisiau plant. Mae'r gyfran wedi mwy na dyblu dros y degawd diwethaf, o 8% i 17% ymhlith pobl rhwng 16 a 44 oed.
Cafodd yr astudiaeth ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn The Lancet.
Cafodd 6,700 o bobl rhwng 16 a 59 oed eu dewis ar hap a'u holi mewn lleoliadau ledled Prydain.