Storm Chandra yn achosi trafferthion teithio a llifogydd

27/01/2026
Rhybudd melyn

Mae yna drafferthion trafnidiaeth a rhybuddion llifogydd mewn grym fore Mawrth wrth i Storm Chandra daro'r wlad.

Mae pum rhybudd am lifogydd a 23 rhybudd i fod yn barod am lifogydd mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru fore Mawrth.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod coeden yn rhwystro'r rheilffordd yng Ngorsaf Heol Llanbister ger Llangynllo ym Mhowys, sy'n golygu nad oes gwasanaethau yn rhedeg rhwng Abertawe ac Amwythig.

Canslodd Stena Line nifer o wasanaethau fferi fore Mawrth oherwydd “tywydd garw”. Roedden nhw'n cynnwys gwasanaethau rhwng Dulyn a Chaergybi a rhwng Abergwaun a Rosslare.

Fe gaeodd Pont Hafren ar yr M48 fore Mawrth a mae Pont Cleddau yn Sir Benfro ar gau i gerbydau ochrau uchel oherwydd gwyntoedd cryfion.

Mae Heddlu Gwent wedi derbyn adroddiadau am lifogydd ar yr A40.

Fe ddaeth rhybudd melyn am wynt ar gyfer y de orllewin i rym am 05:00 fore Mawrth.

Bydd y rhybudd yn parhau tan 16.00 ac yn effeithio ar siroedd Abertawe, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gâr.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y bydd Storm Chandra yn dod â gwyntoedd cryfion i'r ardaloedd yma yn ystod fore Mawrth.

"Bydd hyrddiau o 50-60 mya ar y tir a 60-70 mya ar hyd arfordiroedd agored," meddai llefarydd. 

"Mae'n bosibl y bydd hyrddiadau hyd at 80 mya ar gyfer rhannau o Sir Benfro. 

"Dylai'r gwyntoedd ostegu'n raddol yn ddiweddarach yn y prynhawn."

Ail rybudd

Bydd rhybudd melyn am law hefyd mewn grym tan 10.00 ddydd Mawrth.

Fe ddaeth y rhybudd i rym am 13:00 brynhawn Llun.

Fe allai rhwng 20-30mm o law ddisgyn ac mae rhwng 50-80mm yn bosib ar dir uwch, gan gynnwys Bannau Brycheiniog. 

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd y gallai'r amodau achosi llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, a chreu trafferthion i deithwyr.

Fe allai rhai gwasanaethau trên a bws gael eu hoedi neu eu canslo hefyd yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol: Blaenau Gwent; Caerffili; Sir Gâr; Merthyr Tudful; Castell-nedd Port Talbot; Sir Benfro; Rhondda Cynon Taf; Torfaen; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerdydd; Ceredigion; Sir Fynwy; Casnewydd; Powys; Abertawe; Bro Morgannwg.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.