'Siomedig': Pryderon am gyw iâr o dramor mewn rhai prydau ysgol

Ffermwr

Mae ymgyrchwyr cefn gwlad wedi codi pryderon am ddefnydd cyw iâr o dramor mewn rhai prydau bwyd ysgol.

Yn ôl ystadegau sydd wedi eu rhannu gyda rhaglen Newyddion S4C gan y Gynghrair Cefn Gwlad, mae dros 90% o'r cyw iâr sy’n cael eu rhoi mewn prydau bwyd ysgol mewn rhai awdurdodau lleol yn dod o du fas i'r Undeb Ewropeaidd.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "ymrwymo i gynyddu'r defnydd o fwyd Cymreig a gynhyrchir yn lleol mewn ysgolion".

Dywedodd cyfarwyddwr y Gynghrair Cefn Gwlad yng Nghymru, Rachel Evans: "Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru newid y fframwaith i wneud yn siwr ein bod ni'n gallu rhoi bwyd Prydeinig - o leiaf - ar blatiau ein plant.

"Ry'n ni hefyd yn gofyn am adroddiad blynyddol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fel bod ni, fel rhieni, y cyhoedd a'n ffermwyr ni hefyd, yn gallu gweld yn gwmws o ble mae'n bwyd yn dod fel allwn ni gael trafodaeth onest am biti beth yn gwmws ni'n bwydo'n plant ni."  

Anfonodd y Gynghrair Cefn Gwlad geisiadau rhyddid gwybodaeth i awdurdodau lleol Cymru yn gofyn pa ganran o gyw iâr (gan gynnwys cynnyrch cyw iâr fel nygets, byrgyrs cyw iâr ac ati) mewn prydau bwyd ysgol sydd yn dod o Gymru, y Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a thu hwnt yn y flwyddyn academaidd ddiweddaraf. Daeth ymateb gan 19 o'r 22 awdurdod lleol.

Doedd dim un o'r awdurdodau lleol atebodd yn gallu dweud pa ganran o'u cynnyrch cyw iâr mewn ysgolion oedd yn dod o Gymru. 

Nododd dau - Ynys Môn a Phen-y-bont - bod eu holl gynnyrch cyw iar mewn prydau bwyd ysgol yn dod o'r Deyrnas Unedig.

Ond mae'r ffigyrau yn amrywio yn fawr ar draws y wlad, gyda thri awdurdod yn nodi bod mwy nag 85% o'r cyw iâr mewn ysgolion yn deillio o wledydd y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd fel Brasil, Tsieina a Gwlad Thai.

Ym Merthyr Tudful mae'r ganran uchaf o gynnyrch cyw iâr mewn ysgolion sydd yn dod o'r tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, gyda 99.35%.

94% oedd y ffigwr cyfatebol yng Nghonwy.

Nododd Cyngor Sir Caerffili bod 87.32% o'r cyw iâr mewn prydau bwyd ysgol yn dod o'r tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd, gan nodi hefyd nad ydyn nhw'n defnyddio unrhyw gyw iâr o'r tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd ers dechrau'r flwyddyn academaidd bresennol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: "Pan yn dewis cynnyrch newydd neu yn disodli cynnyrch, rydyn ni'n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a'n gofynion diogelwch bwyd. Rydyn ni'n gweithio gyda darparwyr lleol ar gyfer y cynnyrch defnyddiwn yn ein hysgolion."

Yn ôl Cyngor Sir Conwy, maen nhw'n "dilyn dull rhagweithiol o ran defnyddio cynnyrch Cymreig ar gyfer prydau ysgol pan fo hyn yn hyfyw, yn gynaliadwy ac yn darparu gwerth gorau".

'Siomedig a rhwystredig'

Mae'r ffermwr a thad i dri, Hefin Jones, yn byw yn Nyffryn Conwy ac wedi ei ddigaloni gan yr ystadegau.

"Fel ffermwr Cymreig, dwi'n siomedig a rhwystredig bod 94% o'r cyw iâr mae Cyngor Sir Conwy yn ei ddarparu i blant ysgol Conwy yn dod o lefydd fel Gwlad Thai a Brasil," meddai.

"Wrth i gynnyrch safonol Cymreig gael ei gwtogi, mae’n ymddangos ein bod ni'n derbyn bwyd o ansawdd is sydd yn cael ei gludo hanner ffordd o amgylch y byd. Dyw hynny'n gwneud dim synnwyr o ran diogelwch bwyd, lles anifeiliaid na'r hinsawdd.

"Dylen ni fod yn cefnogi ffermwyr a chynnyrch Cymreig, a sicrhau ein bod yn bwydo bwyd o'r ansawdd uchaf i'n plant."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol, cynhyrchwyr a chyfanwerthwyr i fyrhau cadwyni cyflenwi, lleihau milltiroedd bwyd a chefnogi tyfwyr, ffermwyr a gweithgynhyrchwyr Cymru.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.