Peilonau: Ffermwyr yn ennill yr hawl am adolygiad barnwrol
Mae adolygiad barnwrol wedi ei ganiatáu ar gyfer cannoedd o ffermwyr a thirfeddianwyr sy'n gwrthwynebu bwriad cwmni ynni gwyrdd i godi peilonau yn y canolbarth a'r gorllewin.
Mae'r amaethwyr yn cyhuddo Green GEN Cymru o gamddefnyddio pŵer yn "anghyfreithlon" i "orfodi" mynediad i dir preifat.
Yn ôl dogfennau’r llys, mae swyddogion sy’n gweithredu ar ran y cwmni wedi’u cyhuddo o ymddwyn mewn modd "gorfodol" a diofal a hynny "heb ystyried amddiffyniadau amgylcheddol na lles cymunedol".
Byddai'r cynllun yn ymestyn dros fwy na 200 cilometr o dir, drwy siroedd Powys, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, gan arwain at Fynyddoedd Cambria.
Caniataodd y barnwr Mrs Ustus Jefford yr adolygiad, ar ôl i'r mater gael ei ystyried am dair awr a hanner yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil Caerdydd ddydd Mawrth diwethaf.
Mae disgwyl i wrandawiad gael ei gynnal dros ddeuddydd ym mis Ebrill, gyda'r union ddyddiad eto i'w gadarnahau.
'Hawliau'
Mae Natalie Barstow, sylfaenydd Cyfiawnder i Gymru, ar ran y ffermwyr wedi croesawu'r cyhoeddiad: “Ers misoedd, rydym wedi teimlo'n anniogel yn ein cartrefi, ac wedi colli ein pŵer fel ffermwyr a thirfeddianwyr.
“Nid protest yw hon yn erbyn ynni adnewyddadwy; rydym yn brwydro dros yr hyn sy'n iawn. Ein hawliau i gael ein trin gydag urddas, a chael llais, ac ar gyfer dyfodol ein tir, bywyd gwyllt a'n bywoliaeth.
“Ers i ni ddechrau'r frwydr hon, mae cannoedd o ffermwyr a thirfeddianwyr ar hyd a lled Cymru wedi dod atom gyda straeon tebyg, ac rydym wedi cael cyfraniadau hael er mwyn ariannu'r her gyfreithiol.
“Dywedom na fyddem yn cael ein bwlio, ac mae'r penderfyniad cyfreithiol hwn, yn gam cyntaf ymlaen yn ein brwydr am gyfiawnder.”
Dywedodd Mary Smith, cyfreithiwr ar ran cwmni New South Law, sy'n cynrychioli'r amaethwyr: “Mae penderfyniad y llys yn cadarnhau bod angen i Green GEN Cymru ymrwymo i'r un safonau cyfreithiol ag unrhyw gorff cyhoeddus arall, pan yn gweithredu pwerau ymwthiol ar dir preifat.
"Mae'r achos hwn yn ymwneud ag adfer tegwch, atebolrwydd a pharch i gymunedau lle mae eu bywoliaeth a'u hamgylchedd yn y fantol.”
Mae Newyddion S4C wedi gofyn am ymateb cwmni Green GEN Cymru.