Rhybudd am oedi i deithwyr ar yr A55 dros gyfnod o fis
Mae Llywodraeth Cymru'n galw ar deithwyr i gynllunio ymlaen llaw cyn teithio ar yr A55 yn y gogledd ddwyrain, gan y bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol yno am gyfnod o bedair wythnos o ddiwedd mis Chwefror ymlaen.
O 22 Chwefror, bydd un llain ar gau yn ystod yr wythnos (rhwng 06:00 – 20:00) gyda'r ffordd ar gau yn llwyr dros nos ar ddyddiau'r wythnos (rhwng 20:00 – 06:00) a phenwythnosau (dydd Gwener 20:00 – dydd Llun 6:00) ar y ffordd i gyfeiriad y dwyrain.
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A494, yr A5117 a'r A41 i ailymuno â'r A55 wrth Gyffordd 39 yn ystod y cyfnod yma.
Bydd y gwaith hwn yn cynnwys tynnu'r wyneb sydd wedi gwisgo, atgyweirio'r slabiau concrit dan y ffordd, ailosod draeniau a thyllau archwilio a gosod wyneb newydd ar y ffordd.
'Rhwystredig'
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: "Mae cynnal a chadw ein ffyrdd yn hanfodol i gadw Cymru i symud, ac mae'r A55 yn ffordd hanfodol i gymunedau a busnesau ledled y rhanbarth.
"Rwy'n deall bod gwaith ar y ffordd yn gallu bod yn rhwystredig, ac rwyf am ddiolch i yrwyr ymlaen llaw am eu hamynedd tra bod y gwaith pwysig hwn yn digwydd. Bydd y gwelliannau rydyn ni'n eu gwneud yn helpu i ymestyn oes y ffordd hon am flynyddoedd i ddod.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynnal seilwaith Cymru; gyda phob punt rydyn ni'n ei wario yn helpu i amddiffyn defnyddwyr y ffyrdd, lleihau difrod i gerbydau, a chefnogi'r economi leol."
Llun: Llywodraeth Cymru