Pen Llŷn: Rhybudd wedi i lyncdwll ymddangos ar lwybr yr arfordir

Llun: Llwybr Arfordir Cymru
Llyncdwll Llangwnnadl

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhybuddio pobl i osgoi cerdded ar hyd rhan o'r llwybr yn ardal Llangwnnadl, Pen Llŷn, am y tro wedi i lyncdwll ymddangos yno.

Mae'r llyncdwll wedi ymddangos yn ardal Trefgraig, Bodferin yn Llangwnnadl.

Mae llun yn dangos bod darn o lwybr cerdded pren wedi dymchwel o ganlyniad i'r llyncdwll.

"Dylech osgoi cerdded y llwybr yn ardal Trefgraig, Bodferin yn Llangwnnadl," meddai Llwybr Arfordir Cymru.

"Mae llyncdwll yn ffurfio ar y llwybr ac mae staff Llwybr Arfordir Cymru yn asesu'r sefyllfa ddydd Mawrth.

"Bydd gwyriad dros dro yn y llwybr cael ei roi ar ein gwefan ac fe fydd mwy o fanylion i ddilyn."

'Pryder mawr'

Nid dyma'r tro cyntaf i ddarn o dir ddisgyn yn ardal Pen Llŷn yn ddiweddar.

Ychydig cyn y Nadolig bu tirlithriad yn ardal Lôn Penrallt, Nefyn, gyda'r heddlu yn rhybuddio'r cyhoeddi i gadw draw o'r safle ar y pryd.

Image
Tirlithiad Nefyn
Yr olygfa ar draeth Nefyn ar 20 Rhagfyr wedi tirlithiad yno.

Fe ddigwyddodd tirlithriad arall ar yr un adeg ym Mhorthdinllaen wedi tywydd gwlyb.

Dywedodd cadeirydd Cyngor Tref Nefyn, Mared Llywelyn wrth raglen Newyddion S4C ym mis Rhagfyr bod "pryder mawr" ynglŷn ag effaith tirlithriadau ar hyd yr arfordir. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.