Ystyried y posiblrwydd o sefydlu clwb ffermwyr ifanc yng Nghaerdydd
Mae Prif Weithredwr CFfI Cymru yn credu fod “cyfle i siarad” am sefydlu clwb ffermwyr ifanc yng Nghaerdydd.
Nododd Mared Rand Jones hynny wrth egluro'r heriau sy'n wynebu'r mudiad, gyda chynifer o bobl ifanc yn symud o gefn gwlad i'r dinasoedd.
Mae’r mudiad yn dathlu 90 mlynedd ers ei sefydlu ac fe fydd yn cyhoeddi adroddiad effaith yn y Senedd am 18.00 ddydd Mawrth.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Mared Rand Jones: “Falle, chi ‘mod, un diwrnod so chi’n gwbod, falle newn ni ddechre mudiad y ffermwyr ifanc yn y ddinas.
“'Dyn ni wastod ishe cynyddu ein haelodaeth ni ac os yw pobl ifanc ni yn gorfod mynd i symud i Gaerdydd, falle bod ‘na gyfle falle bod ni’n agor clwb yng Nghaerdydd.”
Pwysleisiodd fod y penderfyniad hwnnw “lan i’r aelodau".
“Mudiad democrataidd y’n ni, yr aelodau sydd yn gwneud y penderfyniadau a thra bod ni’n gwrando ar yr aelodau, y pobl ifanc, dwi’n sicr ac yn hyderus mi fydd y mudiad yn mynd o nerth i nerth," meddai.
Dywedodd hefyd fod y mudiad wastad yn gorfod dod o hyd i arian.
“Mae ffioedd aelodaeth ni yn uwch na rhai mudiadau eraill efallai ond mae hynny oherwydd bod angen mwy o gymorth ariannol arno ni – ma’r arian wastod yn brin da’r mudiad y ffermwyr ifanc," meddai.
“Ni’n fudiad gwirfoddol felly ni bob tro yn chwilio am nawdd neu gefnogaeth arianol er mwyn sicrhau bod yr holl waith yn gallu parhau.”
'Amhrisiadwy'
Mae'r adroddiad effaith a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yn nodi fod dros 74% o aelodau’r mudiad yn siarad Cymraeg.
Ers Covid- 19, mae nifer yr aelodau wedi dychwelyd i’r niferoedd cyn y pandemig, gyda thua 6,000 o bobl ifanc yn aelodau erbyn hyn, yn ôl CFFI Cymru.
“Mi odd hi’n gyfnod anodd iawn yn ystod Covid a mi nath yr aelodaeth gwympo’n sylweddol... felly mae’n braf gweld bod yr aelodaeth nawr yr un peth a beth odd hi cyn Covid,” meddai'r prif weithredwr.
Mae’r adroddiad hefyd wedi ymrwymo i:
- Cefnogi a Datblygu’r Iaith a Diwylliant Cymreig
- Cefnogi, galluogi a bod yn galon cymunedau gwledig lleol
- Meithrin sgiliau a chyflogadwyedd aelodau trwy ddigwyddiadau, cystadlaethau, hyfforddiant a datblygiad.
- Cefnogi iechyd a lles aelodau drwy roi cyfle iddynt fod ynddyn nhw eu hunain, cwrdd â ffrindiau newydd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
- Parhau i gefnogi'r aelodaeth ledled Cymru drwy apelio at bobl ifanc o bob cefndir.
“Dyna lle mae’r adroddiad ‘ma mor bwysig – ma fe’n dystiolaeth a data i ddangos bod gwaith y mudiad yn amhrisiadwy” meddai Mared Rand-Jones.