Newyddion S4C

O ‘ddyfnderoedd uffern’ yn y carchar i adeiladu busnes gwerth chwarter biliwn

12/10/2024

O ‘ddyfnderoedd uffern’ yn y carchar i adeiladu busnes gwerth chwarter biliwn

“Does neb yn credu bod o’n bosib adeiladu cwmni gwerth chwarter biliwn hefo punt.”

Mae dyn busnes o Fôn sydd wedi bod “yn nyfnderoedd uffern” ar ôl cyfnod yn y carchar yn gobeithio prynu adeilad cyn bencadlys Cyngor Conwy.

Mae Nick Pritchard, 51 oed, yn y broses o brynu prydles hir dymor adeilad Bodlondeb yn nhref Conwy, ar ran cwmni entrepreneuriaeth, Ideas Forums.

Cafodd y cwmni ei enwi yn gynigydd a ffafrir i brynu’r adeilad rhestredig gan yr awdurdod, ac maen nhw wedi cyhoeddi eu bwriad i’w droi’n ganolfan entrepenuriaeth ac arloesi.

Mewn cyfweliad ecsgliwsif gyda Newyddion S4C, mae Mr Pritchard wedi trafod ei gynlluniau "uchelgeisiol" ar gyfer yr adeilad. 

Mae hefyd wedi rhannu ei brofiadau o dreulio cyfnod yn y carchar, cyn cael ei ryddhau ac adeiladu portffolio o fusnesau a lwyddodd ei werthu am dros chwarter biliwn o bunnoedd yn gynharach eleni.

Image
Bodlondeb
Bodlondeb (Llun: theGAS.uk Ltd)

Dywedodd Mr Pritchard: “Mae Bodlondeb yn un o’r adeiladau mwyaf eiconig a hardd yng Nghonwy, ac mi fyddwn ni yn ei wneud yn gyfle am fusnes hyfyw a chynaliadwy i Gonwy.

“Fe allwn ni gael yr Amazon nesaf yn dod o fan ‘na, neu’r Microsoft nesaf, a pham ddim? Mae popeth wedi dechrau yn rhywle. Edrycha arna fi - os ydw i’n gallu gwneud o, pam na all rywun arall wneud?”

‘Colli’r cyfan’

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Nick Pritchard werthu grŵp o fusnesau yn y sector egni adnewyddadwy am dros chwarter biliwn o bunnoedd.

A hynny 14 mlynedd yn unig wedi iddo “golli’r cyfan” yn 2010.

Ar ôl gadael yr ysgol, fe wnaeth Mr Pritchard ymuno â’r fyddin, ble roedd yn rhan o ddwy daith i Fosnia dros gyfnod o saith blynedd. 

Wedi iddo ymadael â’r lluoedd arfog, daeth yn ddyn fusnes llwyddiannus ac “adeiladu rywbeth gwych” fel asiant gosod eiddo a pherchennog sawl tafarn a chlwb nos ym Môn a Gwynedd.

Ond 14 mlynedd yn ôl, fe wnaeth llys ei gael yn euog o ddwy drosedd am ei ran mewn menter cyflenwi cyffuriau ym Mangor, ar ôl gosod adeilad ar gyfer ffatri ganabis ‘enfawr’. Cafodd ddedfryd carchar am dair blynedd a hanner am wyngalchu arian a chynllwynio i dyfu canabis.

“Neshi ddod allan o’r fyddin, adeiladu rwbath gwych, a cholli’r cyfan,” dywedodd Nick Pritchard. 

“Wedyn eshi i’r carchar, a cael fy nghloi mewn cell yn meddwl, ‘oh my life, be dwi ‘di neud?’ 

“Neshi weld pethau horrible. Nes i ddod yn ofalwr i garcharorion oedd ar suicide watch, a gwylio pobl yn trio lladd ei hunan yn ganol y nos. Dwi’n deud wrth pobol fy mod i di cael profiad o fywyd yn nyfnderoedd uffern. 

“Doedd dim ceiniog i’n enw, dim ond gwraig amazing oedd yn disgwl amdana i. Ac ar ôl y profiad yna, neshi lusgo fy hun allan a meddwl ‘sut ydw i am ail-adeiladau fy hun o fama?’”

'Ddim yn lwcus'

Ar ôl cael ei ryddhau, fe ddaeth yn rhan o sawl busnes o fewn y sector egni adnewyddadwy. Treuliodd 10 mlynedd â chwmni City Energy Network, yn ceisio creu “chwyldro mewn tlodi gwresogi".

Image
Nick Pritchard
Nick Pritchard

Roedd e wedi helpu “siapio’r” cwmni, yn ôl gwefan City Energy Network, gan helpu ei droi i mewn i un o’r cwmnïoedd â’r tyfiant uchaf yn y wlad a gafodd ei enwi ar restr Wales Fast Growth 50.

Yn ystod yr un cyfnod, fe ddatblygodd gynllun i hyfforddi a rhoi gwaith i bobl yn dod allan o garchar Caerdydd, ble mae’n parhau i ymweld hyd heddiw.

Ychwanegodd: “I fynd o’r pwynt yna i werthu grŵp o gwmnïau am dros chwarter biliwn o bunnoedd – os ydw i’n gallu neud huna, a dydw i ddim y dyn mwyaf galluog yn y byd, dwi’n neud mistêcs fel pawb arall – mae pawb yn gallu gwneud o.

“Mae pobol yn deud ‘mae’n wahanol i chdi, ti’n lwcus’ – wel, tria byw fy mywyd i ta. Mynd i’r army, dwy medal of service, bod i’r carchar, gweld pethau erchyll, sut mae hynny’n lwcus?

“Dydi o ddim yn lwcus, mae o am be ti’n ‘neud i dynnu dy hun allan, i neud gwahaniaeth a trio gwneud pobl yn falch ohonot ti ar ôl dod a siom iddyn nhw.

“Gobeithio fod yna bobl sy’n edrych i fyny i fi. Mae rhai pobl yn edrych i lawr arna i dal, ond dwi di bod i’r carchar, wedi byw efo fo, perchnogi’r peth a bod yn agored amdano fo. 

“Dwi wedi bod yn gwbl onest drwy fy holl busnes. Dwi wedi delio mewn byd busnes cut-throat efo rai o PLCs mwyaf y wlad, ac mae pobol yn deud ‘peidiwch â delio efo fo’. Ond yn y diwedd, geshi fwy o lwyddiant na’r pobol yna i gyd.

“Felly os mae’r bobl sy’n dod allan o’r carchar yn gallu gweld bod pethau 'di gweithio i fi, er bod cymdeithas wedi dweud wrth pawb i gadw draw oherwydd pwy oeddwn i, dwi’n gobeithio allan nhw ddysgu o hynny hefyd.”

‘Rhoi heb gymryd yn ôl’

Bellach, mae Mr Pritchard yn gweithio ar sawl prosiect “cyffrous”. 

Mae’n gadeirydd ar y cwmni cymunedol sydd yn berchen ar Stadiwm Dinas Bangor, ble mae wedi buddsoddi cannoedd o filoedd hyd yma er mwyn gwella’r stadiwm er mwyn ceisio datblygu pêl-droed yn yr ardal.

Mae hefyd wedi cyhoeddi ei fod yn cyd-weithio â’r dyn busnes a’r dylanwadwr cyfryngau cymdeithasol, Simon Squibb, sydd yn llysgennad i'r stadiwm pêl-droed, a fydd hefyd yn dod ynghlwm â’r cynlluniau i ddatblygu Bodlondeb. 

Fel cyfeillion a phartneriaid busnes, mae’r ddau yn dweud eu bod nhw rhannu’r weledigaeth o geisio “helpu pobl i wireddu eu breuddwydion, wrth roi heb gymryd yn ôl".

Dywedodd Mr Squibb wrth Newyddion S4C: “Mae Nick a finnau yn gobeithio rhoi cyfle i’r rhai sydd â breuddwyd i fod yn bêl-droediwr i gael mynediad i’w gyfleusterau, cael cefnogaeth a gobeithio gwireddu eu breuddwydion.

"Rydym yn bobl busnes sydd yn ceisio rhedeg busnes gyda phwrpas, dyna yw’r dyfodol. Yn anffodus, mae’r byd yn cylchdroi o gwmpas arian. 

Image
Simon Squibb
Bydd y dyn busnes Simon Squibb yn ran o brosiect Bodlondeb, yn ôl Mr Pricthard

“Ond mae’n amser am newid. Mae’n gyfrifoldeb ar bobl lwyddiannus fel Nick a finnau i gamu i fyny, nid just siarad am wneud gwahaniaeth ond ei wneud o, mewn unrhyw ffordd y galllwn.”

Dyfodol Bodlondeb 

Yn ei hanterth, roedd Neuadd Bodlondeb, a’i hadeiladwyd yn 1877, yn gartref i gannoedd o weithwyr yr awdurdod. Roedd y cyngor yn talu costau o dros £500,000 y flwyddyn i’w redeg, cyn penderfynu ei werthu eleni.

Mewn datganiad fis Medi, dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Charlie McCoubrey, ei fod yn falch iawn o'r cytundeb gydag Ideas Forums.

Ychwanegodd fod cynllun y cwmni yn "cynnig dyfodol cynaliadwy a chyffrous i’r adeilad, ac yn darparu cyfleoedd datblygu economaidd i dref Conwy a’r ardal ehangach."

Mae Ideas Forums yn dweud y byddent yn ceisio “sbarduno menter” drwy gynnig swyddfeydd ac wi-fi am ddim i fusnesau newydd sydd yn dymuno gweithio yno. Ers y cyhoeddiad fis Medi, mae ’20 i 30’ o fusnesau eisoes wedi dangos diddordeb mewn symud yno, yn ôl Mr Pritchard.

Fe ychwanegodd fod sawl syniad yn cael eu hystyried ar gyfer y ganolfan newydd, gan gynnwys stiwdio ddarlledu, siop goffi a chanolfan i hyfforddi pobl ifanc mewn sgiliau masnach a datblygu'r we.

Image
Stadiwm Dinas Bangor
Mae Mr Pritchard wedi buddsoddi cannoedd o filoedd o bunnoedd i weddnewid Stadiwm Dinas Bangor (Llun: thGAS.uk Ltd)

“Dw i’n ffodus i fod yn fuddsoddwr efo Professor Dylan Jones Evans a Francesca James [cyd-gyfarwyddwyr Ideas Forums], ac ar y pwynt yna roedden ni’n trafod dechrau ryw fath o hwb meithrin busnesau, ac mae’r syniad wedi tyfu o fan ‘na," meddai.

“Rŵan, da ni wedi cyrraedd pwynt lle mae 'na restr anferth o fusnesau sydd eisiau mynd yno. Da ni am roi bach o fuddsoddiad a chefnogaeth ariannol, rhoi desgiau a wi-fi am ddim iddyn nhw.

“Mi fydda’n cymryd rhywun sydd ychydig bach yn anghyfrifol i gymryd ymlaen adeilad o’r maint yma, i drio ei neud o’n gynaliadwy, pan yr holl wyt ti eisiau wneud yw ei roi am ddim i bobl. Ond dyna dw i eisiau gwneud.

“Hoffwn i adael legacy, fel ryw fath o symudiad. Os ydy hynny drwy Bodlondeb, neu’r stadiwm, neu’r hybiau meithrin busnes da ni eisiau sefydlu rownd y byd, ble mae pobol yn dod a pasio rhywbeth ymlaen. 

“‘Rhoi heb gymryd yn ôl’ yw mantra Simon ac mae hynny wedi taro tant hefo fi, a dyna dwi eisiau wneud efo mywyd, a helpu dod a breuddwydion pobol eraill yn wir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.