Newyddion S4C

‘Mwy o Nathan Broadheads’: Gwaith ar droed i ddatblygu pêl-droed ym Mangor

Nantporth a Nathan Broadhead

Fe allai gwaith i ddatblygu'r stadiwm bêl-droed ym Mangor gynnig cyfle i blant yr ardal ddilyn llwybr y pêl-droediwr rhyngwladol Nathan Broadhead sy'n fachgen lleol, a “gwireddu eu breuddwydion pêl-droed”.

Dyna yw gobaith Nick Pritchard, cadeirydd cwmni cymunedol sydd wedi buddsoddi cannoedd o filoedd o bunnoedd o arian ei hun er mwyn adnewyddu Stadiwm Dinas Bangor yn Nantporth.

Mae hefyd am weld clwb Bangor yn datblygu i fod y "Wrecsam nesaf" yn y dyfodol.

“Dw i’n rhoi arian fy hun mewn i hyn a dwi isho neud gwahaniaeth,” meddai. 

“Tydi’r lle ddim yn edrych cystal y dyddiau yma pan ‘da chi’n cerdded i lawr y Stryd Fawr, ac mae’n rhaid i rai pobl ym Mangor ddeffro a newid er mwyn gwneud gwahaniaeth.”

Yn rhannu ei weledigaeth mae dyn busnes ac un o ddylanwadwyr amlycaf TikTok, Simon Squibb - sydd wedi ei benodi yn llysgennad newydd i’r stadiwm.

Yn filiwnydd sawl gwaith drosodd, mae Mr Squibb yn dweud y bydd yn defnyddio ei blatfformau ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn codi proffil y stadiwm a phêl-droed yn y ddinas gyda’i 9.4 miliwn o ddilynwyr.

Image
Simon Squibb
Y dyn busnes Simon Squibb yw llysgennad newydd Stadiwm Dinas Bangor (Llun: Youtube/Simon Squibb)

“Mae’n rhaid i bawb ddechrau yn rhywle,” dywedodd Mr Squibb wrth Newyddion S4C.

“Mae Nick a finnau yn gobeithio rhoi cyfle i’r rhai sydd â breuddwyd i gael mynediad i’w gyfleusterau, cael cefnogaeth a gobeithio gwireddu eu breuddwydion.

"Wrth gwrs, allwn ni ddim bod yn sicr y bydd rhywun yn datblygu i fod yn bêl-droediwr llwyddiannus, mae yna lot o ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth.

"Ond gyda rhywfaint o gefnogaeth, y maes a’r cyfleusterau cywir, mae yna siawns o wneud eu breuddwyd yn wirionedd.

“Dwi’n meddwl gyda beth sydd yn digwydd yn y stadiwm, mi fydd yn gwneud arian.

Image
Nick Pritchard a Simon Squibb
Cadeirydd Stadiwm Dinas Bangor, Nick Pritchard, a Simon Squibb yn trafod gyda Newyddion S4C

"Mae'n rhaid i ni, er mwyn cadw ei adeiladau a’i wella, er mwyn creu gwell cyfleusterau a chynnig mwy o gyfleoedd i bobl.

"Rydym yn bobl busnes sydd yn ceisio rhedeg busnes gyda phwrpas, dyna yw’r dyfodol. Mae elw yn dda ond mae gwneud elw gyda phwrpas yn well fyth.”

‘£3 miliwn i sicrhau’r dyfodol’

Mae Cwmni Cymunedol Nantporth, sydd yng ngofal y stadiwm a’r cae 4G ar y safle, wedi trawsnewid y safle dros fisoedd yr haf.

Image
Stadiwm Dinas Bangor
Stadiwm Dinas Bangor ar ei newydd wedd (Llun: theGAS.uk)

O wneud gwelliannau i fynedfa’r stadiwm, i adnewyddu’r bar a’r cyfleusterau, i symud miloedd o dunelli o hen rwbel o’r maes parcio, mae’r gweithgaredd ar y safle wedi bod yn amlwg dros y misoedd diwethaf.

Mae rhagor o gynlluniau ar y gweill, i godi eisteddleoedd newydd y tu ôl i'r naill gôl, yn ogystal ag adeiladu estyniad ar brif adeilad y stadiwm sydd yn cefnu ar y brif eisteddle.

Gwneud y stadiwm yn “hunan gynaliadwy” yw’r flaenoriaeth yn ôl Mr Pritchard, er mwyn “sicrhau’r dyfodol”. 

Ond mae’n rhagweld y gallai’r costau o gyflawni hynny godi i hyd at £3 miliwn yn y pen draw.

Image
Bangor 1876
Mae CPD Bangor 1876 wedi dychwelyd i chwarae yn Stadwim Dinas Bangor y tymor hwn (Llun: theGAS.uk)

Fe allai rhywfaint o’r arian hynny ddod gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae’r stadiwm wedi ei dewis yn un o bedairyn y gogledd a fydd yn cynnal gemau ym Mhencampwriaeth UEFA Dan 19 yn 2026, ynghyd â’r Cae Ras yn Wrecsam, yr Oval yng Nghaernarfon a Pharc Canol yn Ninbych. Bydd clybiau eraill yn yr ardal yn cynnal sesiynau hyfforddi i dimau yn y gystadleuaeth.

Fis diwethaf, fe wnaeth y Gymdeithas gyhoeddi y bydd £3 miliwn yn cael ei rannu rhwng saith clwb er mwyn cynnal gwelliannau yn y stadiymau.

“Os ydan ni’n lwcus, fe gawn ni £300,000 o hynny, dwi ddim yn sicr,” meddai Mr Pritchard.

“Ond gyda’r weledigaeth sydd gennym yma, rydym yn gobeithio cael buddsoddiad o £3 miliwn er mwyn gwneud y stadiwm yn viable. Y broblem ydy, tydi hynny ddim just yn digwydd. Mae angen i gefnogwyr ddod yma i ddefnyddio’r stadiwm er mwyn iddo gario ymlaen fel busnes, gyda’r elw yn ariannu prosiectau cymunedol.

“Mae hyn am dan derbyn a rhoi, ac am y gymuned yn dod at ei gilydd i gefnogi’r stadiwm. Ond efo’r gwleidyddiaeth sydd wedi bod mewn pêl-droed ym Mangor dros y 10 mlynedd dwytha, mae’n anodd plesio pawb.”

‘Angen mwy o Nathan Broadheads’

Mae’r stadiwm yn gartref i Glwb Pêl-droed Bangor 1876, sydd yn chwarae yn yr ail haen yng Nghymru eleni, ac sydd dan berchnogaeth eu cefnogwyr. 

Mae Clwb Pêl-droed Merched Bangor hefyd yn chwarae yn y stadiwm.

Image
Bangor United

Ond mae Mr Pritchard wedi cyhoeddi dyfodiad clwb newydd yn y ddinas o’r enw Bangor United. 

Fe fydd y clwb yn cynnwys timau ieuenctid a thîm dynion, gan gyfuno Clwb Ieuenctid Penrhosgarnedd.

“Y prif reswm am greu Bangor United ydy datblygu pêl-droedwyr ifanc ym Mangor a Penrhosgarnedd. Y broblem ydi ein bod ni’n colli’r chwaraewyr da bob tro, i glybiau mawr i lawr y coast

"Mae yna un tîm ym Mangor, un sydd yn cael ei redeg gan gefnogwyr ac yn dîm dw i’n noddi £2,500 bob mis.

“Ond rydym eisiau adeiladu academi yma, er mwyn sicrhau nad yw’r plant talentog yn cael eu colli. 

"Oni bai am 1876, nid oes gan blant Clwb Penrhosgarnedd unrhyw le i fynd, ond dim ond hyn a hyn o le sydd yna. Gyda clwb newydd, fe fydd yna o leia 20 o blant ychwanegol yn cael cyfle i barhau i chwarae.

Image
Nathan Broadhead
Fe chwaraeodd Nathan Broadhead i academi Dinas Bangor cyn symud i Wrecsam ac Everton yn ddiweddarach (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

“Edrycha ar esiampl Nathan Broadhead, ai dyna’r stori fawr dwytha ‘da ni wedi gael ym Mangor? Mae angen mwy o Nathan Broadheads yma, dylwn ni fod yn datblygu fwy o blant i godi i’r lefel yna. Mi fyddwn ni’n helpu lot mwy o blant, coeliwch chi fi.”

Er ei fod yn cyfaddef fod “rhai” wedi beirniadu’r penderfyniad i greu clwb o’r newydd yn y ddinas, mae’n credu fod “90%” o’r sylwadau mae’r cyhoeddiad wedi ei dderbyn ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn bositif. 

Y gobaith yw y bydd y clwb yn barod i gystadlu am y tro cyntaf y tymor nesaf.

“Dwi’n caru Bangor. Dwi’n dod o Fangor, fe wnes i adael y fyddin a dod yn ôl i Fangor, dyma fy nghartref.

“Dwi eisiau i ni fod fel y Wrecsam nesaf, pam ddim? Rydan ni’n ddinas, mae gennym stadiwm ffantastic, pam na allwn ni feddwl yn fawr fel pawb arall?

Prif lun: theGAS.uk /Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.