Cymru heb Faletau ar gyfer tair o gemau cynta'r Chwe Gwlad
Fe fydd ymgyrch Cymru'n dechrau yn y Chwe Gwlad heb Taulupe Faletau eleni, yn dilyn y cyhoeddiad ei fod wedi dioddef anaf i'w goes.
Ni fydd Faletau ar gael i'r crysau cochion ar gyfer y gemau yn erbyn Lloegr, Ffrainc a'r Alban wedi iddo gael ei anafu tra'n chwarae i'r Gweilch yn erbyn Rygbi Caerdydd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn.
Nid oes disgwyl i'r chwaraewr 35 oed fod yn holliach tan ddiwedd mis Chwefror.
Fe fydd yn rhaid i Gymru addasu gan nad yw'r capten Jac Morgan na Max Llewellyn ar gael am gyfnod helaeth o'r gystadleuaeth chwaith.
Bydd prif hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, yn cyhoeddi carfan Chwe Gwlad Cymru ar 20 Ionawr.
Gêm gyntaf Cymru yn yr ymgyrch eleni fydd yn erbyn Lloegr yn Twickenham ar 7 Chwefror.
