Gwrthdrawiad Porthmadog: Agor a gohirio cwestau dau ddyn
Mae cwestau i farwolaethau dau ddyn mewn gwrthdrawiad ger Porthmadog fis Rhagfyr wedi eu hagor a'u gohirio.
Roedd Mathew Hardy, 34 oed, yn un o ddau ddyn a fuodd farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 ar nos Sadwrn 21 Rhagfyr.
Fe fuodd Daniel Atkinson, 40 oed, o Flaenau Ffestiniog farw yn y fan a'r lle hefyd.
Wrth agor cwestau’r ddau ddyn fore Mercher, dywedodd Sarah Riley, Crwner Cynorthwyol Gogledd Orllewin Cymru fod Mr Hardy, o Dan yr Eglwys, Abererch, yn gyrru ei lori adfer (recovery truck) Izuzu tuag at gyfeiriad Tremadog.
Ar yr un pryd, roedd Mr Atkinson, o Benygwndwn, Blaenau Ffestiniog, yn gyrru ei gar i gyfeiriad y de.
Dywedodd Ms Robertson fod yna gerbyd oedd yn gyrru tuag at lori Mr Hardy wedi ei daro. Bu farw'r ddau yn y gwrthdrawiad.
Dywedodd y crwner fod Mr Hardy wedi cael ei adnabod gan swyddog yr heddlu oedd yn ei nabod.
Fe ychwanegodd fod Mr Atkinson wedi dioddef sawl anaf, gyda'r archwiliad post mortem yn dangos fod yna "reswm i gredu" bod y ddau ddyn wedi marw o achosion annaturiol.
Cafodd y cwestau eu gohirio er mwyn i ymchwiliadau'r awdurdodau gael eu cwblhau.
‘Dyn annwyl’
Roedd ffordd yr A487 ar gau am bron i ddeuddydd wedi'r digwyddiad.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi cyfeirio'r mater at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn dilyn y digwyddiad.
Ond daeth cadarnhad ar 7 Ionawr gan yr IOPC na fyddent yn cynnal ymchwiliad.
Ar Noswyl Nadolig, fe wnaeth teulu Mr Hardy roi teyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel “dyn annwyl a hoffus”.
Roedd Mr Hardy yn mynd i fod yn dad, ac fe ddywedodd ei deulu ei fod "yng nghanol cyfnod mor gyffrous yn ei fywyd yn symud i dŷ newydd a merch fach ar y ffordd."