Barn gymysg am gynlluniau posib i newid casgliadau gwastraff ar Ynys Môn
Mae rhai o drigolion Ynys Môn wedi codi amheuon am gynlluniau posib i newid casgliadau gwastraff cyffredinol o unwaith bob tair wythnos i unwaith bob pedair wythnos.
Mae’n rhan o gynllun gan Gyngor Môn i wella faint o wastraff ar yr ynys sy’n cael ei ailgylchu gyda bwriad hefyd i greu mwy o gyfleoedd i bobl wneud hynny.
Dim ond wyth o’r 22 o gynghorau sir yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru i ailgylchu 70% o’u gwastraff.
Yn ôl Cyngor Môn maen nhw’n annog unrhyw un sydd â barn ar y cynllun i ymateb i’r ymgynghoriad sydd wrthi ar hyn o bryd.
Ar hyn o bryd mae 65% o wastraff yr ynys yn cael ei ailgylchu neu ei ail-ddefnyddio.
Ond oni bai bod y cyngor yn cynyddu hynny i 70% fe allen nhw wynebu dirwy o £350,000 gan Lywodraeth Cymru.
'Croesawu ymateb'
Mae’r cynlluniau yn cynnwys cynnig mwy o gapasiti a chyfleoedd i drigolion ailgylchu yn ogystal a chasglu gwastraff cyffredinol yn llai aml.
Yn ôl Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Cyngor Sir Ynys Mon, Huw Percy, mae’r ymgynghoriad yn gyfle i bobl ddweud eu dweud.
“Fel cymdeithas ‘da ni’n cael lot llai o bapur wan, papurau newydd a ‘di biliau ddim yn dod ar bapur.
“Tra ar y llaw arall, mae pobl yn archebu deunyddiau ar-lein felly mae hynny’n golygu mwy o cardfwrdd ac mae na gwestiwn ydi’r trefn ailgylchu ni yn addas ar gyfer y dull modern felly ‘sa ni’n croesawu barn trigolion Môn ar hynny”.
Ond wrth holi pobl ar stryd fawr Llangefni cymysg oedd y farn.
Yn ôl un gŵr lleol dywedodd ei fod yn deall yr angen am newid ond yn amau a fyddai’n gweithio.
“Dwi’n meddwl fyddai newid i bedair wythnos ddim yn ddewis poblogaidd efo pobl ond eto mae gyno ni dargedau statudol i hitio efo ailgychu”.
Dywedodd un ddynes ei bod yn poeni y gallai llai o gasgliadau arwain at lygod.
“Mae na ormod o wastraff yna, llygod yn broblem mawr os nad oes na bins yn cael eu casglu bob tair wythnos.
“Da chi methu ailgylchu popeth – mae’n amhosib.”
Ond yn ôl un arall mae’n gyfle am newid.
“Ella sa modd treialu sut mae hynny'n gweithio ac yna ymgynghori a gwneud penderfyniad ar y diwedd.”
Ar hyn o bryd Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr sy’n dod i’r brig o ran y gyfradd ailgylchu gyda 73% o’r gwastraff yno yn cael ei ailgylchu.
Ar waelod y tabl mae Cyngor Caerdydd gyda 60%.
Yn ôl yr Ymgynghorydd Amgylchedd, Rebecca Colley-Jones, mae angen gwella ailgylchu gwastraff bwyd yng Nghymru.
“Weithiau dydi pawb ddim yn participatio wrth rhoi gwastraff bwyd nhw allan a dwi’n meddwl efallai mae pethau fela yn cael effaith.
“Os da ni mond yn cael 50% yn rhoi gwastraff bwyd allan fydd y total yn llai na be ddylai o fod.”
Fe fydd yr ymgynghoriad yn agor i drigolion Môn tan 17 Chwefror.