'Cyfnod pryderus': Galw am ymchwiliad wedi i gwmni Consumer Energy Solutions fynd i'r wal

Swyddfa Consumer Energy Solutions yn Abertawe
Consumer Energy Solutions Abertawe

Mae galwadau am ymchwiliad cyhoeddus i gwmni gwresogi gwyrdd o Abertawe, Consumer Energy Solutions (CES), wedi bron i 300 o weithwyr golli eu swyddi ar ôl i’r cwmni fynd i’r wal.

Daeth cadarnhad ddydd Mercher bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal trafodaethau gyda City Energy Group, sef rhiant gwmni CES, ynglŷn â chefnogi bron i 300 o weithwyr sydd wedi colli eu swyddi.

Mae pryderon wedi eu codi hefyd ynglŷn â sut y bydd gwaith yn cael ei gwblhau mewn cartrefi ble mae prosiectau i osod systemau gwresogi eco-gyfeillgar newydd oedd yn rhan o gynllun ECO4 Llywodraeth y DU.

Mae’r Llywodraeth wedi penderfynu dod â’r cynllun ynni hwnnw i ben erbyn mis Mawrth, gan fuddsoddi £1.5 biliwn yn ychwanegol i gefnogi cynllun newydd.

O ganlyniad, daeth cadarnhad ddydd Gwener diwethaf bod Consumer Energy Solutions, oedd yn cyflogi bron i 300 o weithwyr yn Abertawe, Treorci a Bangor, wedi dod i ben.

Yn ystod cyfarfod llawn o Senedd Cymru ddydd Mercher, fe wnaeth yr Aelod dros Arfon, Siân Gwenllïan, bwyso ar y Llywodraeth i gynnal ymchwiliad.

Image
Sian Gwenllian
Sian Gwenllian AS

Dywedodd: “Mae hyn yn newyddion hynod anodd ar gyfer y gweithwyr a’u teuluoedd, a dwi mawr obeithio fod yna gymorth yn cael ei rhoi iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd a phryderus yma. 

“Mae’r newyddion hefyd wrrth gwrs yn anodd i’r aelwydydd rheini sydd wedi cael eu gadael yn sydyn efo gwaith ar ei hannar, neu gwaith sydd yn is-safonol. 

"Maen nhw isho gwybod sut mae unioni’r problemau rheini rwan fod y cwmni ddim ar gael.  

“Mae ‘na enghreifftiau cwbwl annerbyniol o bobl yn byw heb wres, a heb ddŵr, a mae'n rhaid i ni gofio fod rhain ymhlith y bobl mwya’ bregus yn ein cymdeithas ni.” 

Fe ofynodd i’r Ysgrifennydd dros yr Ecomoni, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: “Be all y Llywdoraeth neud i gefngoi unigolin a theuluoedd y rhai sydd wedi eu heffeithio? 

“Mae Plaid Cymru yn galw am ymchwiliad i’r holl sefyllfa – ydy Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal ymcwhiliad, neu a fedrwch chi bwyso am ymwchiliad gan gorff megis y Swyddfa Cyfrifo Cenedlaethol?”

Yn ei hymateb, fe ddywedodd Ms Evans bod y Llywodraeth wedi trafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Undeig ynglŷn â sut y gall pobl sirchau bod gwaith yn eu cartrefi yn cael ei gwblhau i safon.

“Ym amlwg fydd hyn yn gyfnod pryderus i’r bron i 300 o staff sydd wedi colli eu gwaith gyda CES ddydd Gwener, ac rydym eisoes wedi rhoi camau mewn lle i’w cefnogi, er mwyn canfod gwaith newydd a chyfleoedd hyfforddi. 

Image
rebecca evans
Yr Ysgrifennydd dros yr Ecomoni, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans

“Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi cwrdd â chyfarwyddwyr City Energy Group ddoe. 

“Fe wnaethon nhw gadarnhau bod bron i bob un o’r aelodau staff a effeithwyd wedi’u lleoli yn ardal Abertawe. 

“I’r 60 staff sydd wedi’u cyflogi yn y ganolfan gyswllt yna, rydym yn gweithio gyda Connect Cymru i ganfod cyfleoedd amgen ar eu cyfer.”

Archwiliad

Fis Mai 2024, fe wnaeth Newyddion S4C adrodd fod cwynion wedi’u gwneud am safon gwaith CES ar gartrefi pobl.

Fel rhan o’r ymchwiliad hwnnw, dywedodd 11 o gwsmeriaid CES ar draws Cymru a Lloegr eu bod yn anfodlon gyda'r gwaith a wnaed, gyda rhai yn dweud ei fod yn “effeithio ar eu hiechyd”.

Dywedodd Ms Evans bod archwiliad o broblemau insiwleiddio y llynedd wedi amlygu “lefel hynod uchel o waith is-safonol” a bod yn rhaid i Lywodraeth y DU weithredu ar unwaith i wahardd rhai o’r cwmnïau oedd yn perfformio waethaf.” 

Ychwanegodd: “Rydym wedi ei gwneud yn glir i Lywodraeth y DU fod angen iddyn nhw ac Ofgem ystyried a chyfleu sut y bydd aelwydydd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd yn cael eu cefnogi, a sut y gallant estyn allan am gefnogaeth.”

Mewn datganiad yr wythnos hon, dywedodd y gweinyddwyr, KR8 Advisory, fod CES wedi rhoi’r gorau i fasnachu ar ôl i Lywodraeth y DU benderfynu peidio â bwrw ymlaen â chynllun ECO5.

“O ganlyniad, nid oedd y busnes yn hyfyw yn ariannol mwyach a pheidiodd â masnachu,” meddai’r datganiad.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr KR8 Advisory, Jimmy Saunders, fod y penderfyniad i beidio ag ymestyn ECO4 y tu hwnt i Fawrth 2026 wedi gwaethygu’r sefyllfa.

“Byddwn yn gweithio gyda’r awdurdodau perthnasol i gefnogi cyn-weithwyr i chwilio am gyflogaeth newydd ac i hawlio eu hawliau diswyddo.”

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gydag Ofgem am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.