Cyngor yn gwrthwynebu cais y Swyddfa Gartref am lety ffoaduriaid yn Rhosllannerchrugog

Rhos

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cyhoeddi datganiad yn dilyn pryderon lleol yn ardal Rhosllannerchrugog am gynlluniau i drosi adeilad yn y pentref yn llety i ffoaduriaid.

Dywed y cyngor fod y Swyddfa Gartref wedi cysylltu gyda'r cyngor "fel rhan o broses ymgynghori ar gyfer llety gwasgaru ffoaduriaid."

Roedd swyddogion wedi holi am ddefnyddio hen safle Plas yn Rhos yn y pentref.

Mae cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu nos Wener yn y pentref i drafod pryderon y gymuned am y cynllun.

Mae'r cyngor yn dweud mai nid yr awdurdod lleol sydd yn berchen ar y safle gan ei fod wedi ei werthu ym 1989 gan yr hen Gyngor Sir Clwyd.

Ychwanegodd datganiad y cyngor fod cynigion y Swyddfa Gartref ar gyfer 35 o unedau i deuluoedd hyd at ddau berson fesul uned, a'u bod yn "bwriadu cyflwyno ymateb yn gwrthwynebu’r cynnig."

"Mae’r Swyddfa Gartref wedi ymgynghori â’r cyngor ynghylch yr adeilad ar ddau achlysur blaenorol, ac rydym wedi gwrthwynebu’r defnydd arfaethedig yn gryf y ddau dro.

"Byddai unrhyw newid yn y defnydd o’r adeilad yn gorfod mynd trwy ystyriaethau cynllunio arferol pan fo’n briodol", meddai'r cyngor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.