Cyngor Gwynedd wedi gwario 'hyd at £65,000' ar achos llys Erthygl 4

abersoch

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd wario hyd at £65,000 yn ymladd achos llys wrth geisio sicrhau fod rheol ddadleuol Erthygl 4 ar ailgartrefi yn cael ei gweithredu yn y sir.

Wrth ymateb i Gais Rhyddid Gwybodaeth gan Newyddion S4C, dywedodd y cyngor fod y gost o ymladd achos cyfreithiol 'Enlli Angharad Williams v Cyngor Gwynedd' y llynedd yn 'amcangyfrif uchafswm o £65k' - ond nid oedd y cyngor yn fodlon dweud beth yw costau cyfreithiol apelio'r achos hwnnw ers hynny.

Cyflwynodd Cyngor Gwynedd y Cyfarwyddyd Erthygl 4 ym mis Medi 2024, a hynny "fel modd o reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau." 

O ganlyniad roedd angen caniatâd cynllunio ar berchennog eiddo cyn ei newid yn ail gartref neu lety gwyliau.

Ond daeth barnwr yn yr Uchel Lys i'r canlyniad ym mis Medi 2025 fod y cais cyfreithiol gan ymgyrchwyr i wrthwynebu penderfyniad y Cyngor i weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn llwyddo, gan nad oedd y wybodaeth gywir wedi ei chyflwyno i gabinet y cyngor wrth baratoi'r gwaith o weithredu'r cynllun.

Ar 27 Tachwedd 2025, yn ystod gwrandawiad yn yr Uchel Lys ac yn dilyn y dyfarniad blaenorol ym mis Medi, cadarnhaodd yr Ustus Eyre orchymyn i ddiddymu Cyfarwyddyd Erthygl 4. 

O ganlyniad, mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 wedi’i ddiddymu yn y sir ac nid yw bellach yn cael ei weithredu.

Gwrthodwyd cais llafar y Cyngor am ganiatâd i apelio penderfyniad y barnwr, ac mae’r cyngor yn paratoi cais ysgrifenedig i apelio i’r Llys Apêl.

Costau apêl

Wrth esbonio'r penderfyniad i beidio a rhyddhau gwybodaeth am gostau cyfreithiol yr apêl yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys, dywedodd Cyngor Gwynedd wrth Newyddion S4C: "Ar ôl ystyried yn ofalus, rydym yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdano ynglŷn a chostau yr apêl pellach o dan adran 42 o'r FOIA, sy'n darparu eithriad ar gyfer gwybodaeth sy'n ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol (LPP). 

"Mae adran 42 yn diogelu cyfathrebiadau cyfrinachol rhwng cleient a'i gynghorydd cyfreithiol, gan gynnwys cyfathrebiadau a grëwyd at ddibenion cael cyngor cyfreithiol neu baratoi ar gyfer ymgyfreitha. 

"Gall braint broffesiynol gyfreithiol fod yn berthnasol i fraint cyngor a braint ymgyfreitha. Mae'r achos adolygiad barnwrol hwn rhwng y Brenin (ar gais Enlli Williams) v Cyngor Gwynedd yn parhau i fod yn achos ymgyfreitha byw a gweithgar gyda’r Cyngor wedi datgan eu bwriad i apelio yn erbyn y penderfyniad ac wedi symud ymlaen i wneud hynny. 

"Pwrpas yr eithriad hwn yw sicrhau bod y cleient yn gallu ceisio a derbyn cyngor cyfreithiol gonest a heb fod risg y bydd cyngor o'r fath (ac yn yr achos hwn, cost camau Cyfreithiol) yn cael ei ddatgelu ac felly yn cadw uniondeb y broses gyfreithiol yn ein swyddogaeth ceisio cyngor."

Cyfrinachedd

Ychwanegodd ymateb y cyngor i'r Cais Rhyddid Gwybodaeth: "Yn hyn o beth mae'r wybodaeth yn dod o fewn cwmpas braint cyngor a/neu fraint ymgyfreitha, gan ei bod yn cynnwys cyfathrebiadau cyfrinachol a baratowyd ar gyfer y prif bwrpas ceisio, darparu cyngor cyfreithiol a chynnal achosion cyfreithiol."

Dywedodd Cyngor Gwynedd y gallai datgelu'r wybodaeth "ddatgelu sylwedd y cyngor cyfreithiol, hyd yn oed yn anuniongyrchol, a fyddai'n peryglu cyfrinachedd a'r gallu i ddarparu arweiniad cyfreithiol diogel yn y dyfodol" ac nid oes unrhyw ddatgeliad cyhoeddus blaenorol "wedi peryglu cyfrinachedd y cyfathrebiadau hyn, ac felly mae'r fraint broffesiynol gyfreithiol yn parhau i fod yn gyfan".

Cyngor Gwynedd oedd y cyntaf o gynghorau Cymru i weithredu Erthygl 4, wedi i Lywodraeth Cymru roi rhagor o rymoedd i awdurdodau lleol ym mis Hydref 2022 i reoli nifer yr ail gartrefi yn eu hardaloedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.