Newyddion S4C

Sut mae cael gafael ar docynnau Sioe Nadolig Cyw?

08/10/2024
Sioe Nadolig Cyw 2024

Mae tocynnau ar gyfer Sioe Nadolig Cyw wedi mynd ar werth ddydd Mawrth.

Bydd cyflwynwyr Cyw yn cychwyn ar eu taith o amgylch Cymru ym mis Tachwedd, gan ddod â'r gwasanaeth S4C i blant yn fyw.

Hefyd yn ymuno ar y daith fydd y môr leidr Ben Dant, Bledd y ddraig o’r gyfres Dreigiau Cadi, a Siôn Corn.

Bydd y sioeau'n cael eu cynnal yn Y Bala, Caernarfon, Wrecsam, Drefach ger Llanelli, Llandysul a Chaerdydd.

Roedd rywfaint o feirniadaeth y llynedd nad oedd y sioe yn ymweld a Cheredigion na Sir Benfro, ond mae sioe yn Ysgol Bro Teifi Llandysul wedi ei hychwanegu yn y de orllwin eleni.

Am y tro cyntaf hefyd, bydd yna hefyd sesiynau arbennig ym mhob lleoliad lle bydd gwasanaeth hyrwyddo BSL yn cael ei gynnig. 

Dywedodd y cymeriad Ben Dant, sy'n cael ei chwarae gan Aeron Pughe: “Bendibwmbwls, dwi methu aros i gael mynd am yr antur yma gyda Cyw ar y daith Nadolig.

“Dwi wrth fy modd yn cael y cyfle i gyfarfod â phlant Cymru wrth i ni ddiddanu pawb gyda’r Sioe.

“Gobeithio y gwela'i chi yno – Nadolig Llawen iawn i chi gyd. Ahoi!"

Sut alla i gael gafael ar docynnau?

Fe aeth tocynnau'n ar werth am 10.00 dydd Mawrth 8 Hydref.

Ar gyfer pob lleoliad heblaw am Y Bala a Wrecsam, mae modd archebu tocynnau drwy gysylltu â Galeri Caernarfon (galericaernarfon.com).

Er mwyn archebu tocynnau ar gyfer Y Bala, cysylltwch â Theatr Derek Williams (theatrderekwilliams.cymru).

Ac ar gyfer Wrecsam, cysylltwch â Neuadd William Aston (williamastonwrexham.com).
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.