Sioe Nadolig Cyw yn ôl - ond mae siom i rai rhieni
Bydd plant ledled Cymru wrth eu boddau wrth i Sioe Nadolig Cyw ddychwelyd am y tro cyntaf ers blynyddoedd.
Ond mae rhai rheini yn anhapus hefyd - a hynny oherwydd nad yw'r sioe yn ymweld gyda'u hardal nhw o Gymru.
Bydd cyflwynwyr Cyw yn cychwyn ar eu taith o amgylch Cymru ym mis Tachwedd gan ddod â rhaglen S4C i blant yn fyw, gyda sioau yng Nghaerdydd, Drefach Llanelli, Caernarfon, Y Drenewydd a Wrecsam.
Ond mae rhai rhieni a gwarchodwyr plant yng Ngheredigion a Sir Benfro wedi dweud eu bod yn “rhwystredig” na fyddai eu plant yn cael gweld sioe o’r fath yn y Gymraeg.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Catrin Phillips, arweinydd meithrinfa Eglwyswrw yn Sir Benfro, ei bod yn “siomedig iawn” na fydd y sioe yn cael ei chynnal yn lleol eleni.
“I ni fel cylch meithrin yn siomedig iawn nad yw Cyw yn dod i Sir Benfro ‘na Cheredigion,” meddai.
“Pam o’ nhw yn ‘neud y sioe yma cyn Covid, dyna be’ o’ ni yn rhoi i’r plant fel anrheg ‘Dolig.
“So ‘odd e’n siom mawr gweld rhestr o’r lleoedd o’ nhw’n mynd i a gweld bod pob un rhy bell i ni fynd.”
Ychwanegodd: “Ma’ fe’n bwysig iawn i blant bach cael y cyfle i gweld teithiau fel Cyw yn y Gymraeg.
“Ma’ nhw’n gweld e ar y teledu ond i cael sioe iddynt fynd i, mae hynny’n well profiad.”
‘Siomedig iawn’
Roedd sawl rhiant hefyd wedi mynegi eu siom ar y cyfryngau cymdeithasol, wedi i gyfrif Cyw gyhoeddi’r cynlluniau am y daith.
“14 sioe yn Caernarfon a dim un yng Ngheredigion… siomedig iawn,” medd un.
“Cytuno’n llwyr,” meddai un mewn ymateb. “Fydde plant bach y meithrin yn dwli mynd i’w weld.”
“Siom ddim yn dod i Geredigion na Sir Benfro," meddai un arall.
Mewn ymateb i’r sylwadau, dywedodd llefarydd ar ran S4C eu bod nhw'n “falch iawn fod y Sioe Nadolig am deithio Cymru yn ystod mis Rhagfyr.
“Mae yna filoedd o docynnau ar gael ar gyfer y Sioe ac fe fydd yna nifer o gyfleon i weld y perfformiad ymhob lleoliad,
“Mae capasiti, argaeledd, a nifer o wahanol ffactorau eraill wedi chwarae rhan flaenllaw wrth geisio trefnu taith lwyddiannus eleni."
Bydd y sioeau yn cael eu cynnal o 30 Tachwedd hyd at 20 Rhagfyr a mae tocynnau ar gael ar wefan Galeri Caernarfon.