Llong bleser yn dychwelyd i Belfast rai oriau wedi iddi ddechrau ar ôl oedi mawr
Mae llong bleser a adawodd Belfast nos Lun wedi misoedd o oedi, ar ei ffordd yn ôl i'r porthladd am nad yw'r gwaith papur ar ei chyfer wedi ei gwblhau.
Roedd y Villa Vie Residences' Odyssey i fod i adael y ddinas fis Mai, ond bum mis yn ddiweddarach a dyw'r llong ddim wedi dechrau ar ei mordaith dair blynedd.
Angorodd y llong oddi ar arfordir Gogledd Iwerddon dros nos, ac roedd disgwyl iddi barhau â'i thaith eto ddydd Mawrth.
Ond mae'r teithwr wedi cael gwybod y byddan nhw'n dychwelyd i Belfast er mwyn cwblhau'r gwaith papur terfynol.
Y bwriad gwreiddiol oedd gadael ar 30 Mai ond doedd dim modd gweud hynny yn sgil problemau gyda'r llyw a'r gerbocs.
Er y misoedd o aros, mae'r teithwyr yn dweud eu bod wedi syrthio mewn cariad â Belfast.
'Profiad hynod'
Yn ôl Holly Hennessy sydd yn dod o Florida, mae'r bobl wedi bod yn groesawgar iawn.
"Er nad yw'r tywydd wedi bod yn gynnes mae'r bobl wedi bod yn dwymgalon iawn," meddai.
"Mae wedi bod yn brofiad hynod."
"Rydyn ni i gyd wedi cael y cyfle i deithio a mynd adref yn ôl y galw. Felly rydyn ni wedi dysgu i fod yn amyneddgar a dyfalbarhau ac wedi dysgu pa mor hyfryd mae pobl Belfast wedi bod."
Ar ôl cwblhau'r gwaith papur, y gobaith yw y bydd y llong yn teithio ar draws y byd am y tair blynedd nesaf.
Yn ôl gwefan Harbwr Belfast, mae disgwyl i'r llong adael Belfast eto am 23:00 nos Fawrth.
Llun: Villa Vie Odyssey / X