Môr o gariad: Dau i briodi ar ôl aros wythnosau am fordaith
Bydd dau berson wnaeth gwrdd tra'n aros am eu mordaith i gychwyn yn priodi pan fydd y llong yn gadael porthladd.
Bu'n rhaid i Gian Perroni ac Angela Harsanyi aros yng Ngogledd Iwerddon gan fod problemau injan y llong fordaith Odyssey wedi atal y daith rhag cychwyn.
Dechreuodd y ddau gyfarfod tra'n aros ym Melfast am ddechrau'r daith.
Bellach fe fydd y ddau'n priodi pan fydd y daith dair blynedd a hanner yn gadael Gogledd Iwerddon.
Dywedodd Ms Harsanyi wrth raglen The UK Tonight nad oedd hi'n gallu dychmygu ei bywyd heb Mr Perroni ers iddyn nhw gwrdd.
"Roedd gennym gymaint yn gyffredin ac yn mwynhau cwmni ein gilydd," meddai.
" Da ni methu dychmygu ein bywydau heb ein gilydd. Pan chi'n gwybod os mai rhywun ydy'r un i chi, 'da chi'n gwybod."
'Teimlo'n iawn i ddyweddio'
Yn wreiddiol o Ganada, dywedodd Gian Perroni ei fod yn teimlo'n iawn i ofyn i Angela ei brodi ym Melfast.
Roedd y ddau wedi dewis modrwy o siop gemwaith yng nghanol y ddinas ac fe ofynnodd iddi ei briodi ger Afon Lagan.
"Roeddem yn cerdded gyda'n gilydd o'r cwch i'r gwesty yng nghanol y ddinas," meddai.
"Roedd y cyfeillgarwch wedi blodeuo i ramant a dechreuodd y ddau ohonom siarad am briodi.
"Y cynllun oedd gofyn iddi briodi ar y llong, ond un noson wrth gerdded ar hyd Afon Lagan, tra oedd y lleuad yn disgleirio, roedd yr amser yn teimlo'n iawn, felly ofynnais y cwestiwn."
Bydd y ddau yn priodi ar y llong pan fydd yn teithio rhwng Camlas Panama a Costa Rica.
Lluniau: Sky News